Llynges Rwsia yn honni iddi saethu tuag at lynges Prydain

Mae Rwsia wedi honni iddi danio ergydion i rybuddio un o longau Llynges Frenhinol Prydain yn y Môr Du.
Serch hynny, mae Gweinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig wedi wfftio'r honiadau.
Yn gynharach ddydd Mercher, dywedodd Gweinidogaeth Amddiffyn Rwsia fod y llynges wedi croesi mewn i diriogaeth Rwsia ger Crimea.
Maen nhw'n dweud fod ergydion rhybudd wedi cael eu saethu tuag at HMS Defender, gydag un o awyrennau milwrol Rwsia yn gollwng pedwar bom gerllaw'r llong.
Ond mae Gweinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig wedi gwrthod hyn, gan ddweud mai ymarferiad rheolaidd oedd yr ergydion.
Ychwanegodd llefarydd fod y Llynges Frenhinol yn cynnal "taith ddiniwed trwy diriogaeth forol yr Wcrain, yn unol â chyfraith ryngwladol”.
Darllenwch y stori’n llawn yma.