Newyddion S4C

Syr Lenny Henry'n 'emosiynol iawn' cyn cyflwyno Comic Relief am y tro olaf

15/03/2024
Lenny Henry

Mae Syr Lenny Henry wedi dweud ei fod yn "emosiynol iawn" wrth iddo baratoi i gyflwyno sioe Comic Relief am y tro olaf nos Wener.

Ychwanegodd y cyflwynydd ei fod yn "hynod o falch" o'r gwaith mae Comic Relief wedi'i gyflawni ar hyd y blynyddoedd.

Cyd-sefydlodd y digrifwr yr elusen 39 mlynedd yn ôl, a darllediad dydd Gwener fydd ei olaf fel cyflwynydd.

"Rwy'n credu ei fod angen rhywun newydd, ac rwy'n bendant yn hen bellach. Felly mae'n amser am newid," meddai Syr Lenny.

“Mae hwn yn amser da i wahanu ac i ganiatáu cenhedlaeth newydd i gymryd yr awenau a symud yr holl beth ymlaen ychydig."

Bydd y rhaglen nos Gwener yn cynnwys addasiad o The Traitors, lle bydd seren Vigil a Gentleman Jack, Suranne Jones, yn chwarae rhan Claudia Winkleman.

Bydd Maya Jama, David Tennant a Davina McCall yn ymuno â Syr Lenny Henry i gyflwyno'r sioe.

Canu gyda Tom Jones

Wrth hel atgofion am ei gyfnod ar y sioe, roedd deuawd gyda Tom Jones yn 1991 yn sefyll allan fel atgof melys iddo meddai.

"Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda Tom Jones, a oedd yn dweud o hyd, 'os ydych chi am daro nodyn uchel, mae'n rhaid i chi glensio'".

Mae Comic Relief wedi codi mwy na £1.5bn dros y blynyddoedd, gyda’r arian yn helpu i fynd i’r afael â thlodi, darparu bwyd, gofal iechyd a lloches ddiogel i bobl yn y DU a ledled y byd.

"Mae'r arian y mae pobl wedi'i anfon dro ar ôl tro, bob tro, wedi helpu dros 100 miliwn o bobl. Mae hynny'n llawer o bobl," meddai Syr Lenny.

"A does dim llawer o sefydliadau all ddweud hynny.

"Os ydych chi wedi helpu i wneud hynny, diolch. Ac nid yw'n ymwneud â niferoedd bellach. Mae'n ymwneud â'r hyn rydych chi'n teimlo y gallwch chi ei roi oherwydd rydyn ni'n gwybod bod yna frwydr yn digwydd ar hyn o bryd. Mae pobl yn profi amser caled."

Bydd Syr Lenny yn parhau i fod yn gysylltiedig â'r sioe fel llywydd am oes Comic Relief.

“Rwy’n meddwl y byddaf yn hynod o falch oherwydd mae wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd, ac i weld cenhedlaeth newydd o bobl yn symud ymlaen - mae gennym ni Maya Jama, David Tennant, Romesh Ranganathan - mae cymaint o bobl.

“Bydd yn wych gadael gan wybod bod yna - rwy'n mynd yn emosiynol nawr - grŵp newydd o bobl yn cymryd drosodd."

Llun: Comic Relief

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.