Newyddion S4C

Galw am ail-agor pont droed hanesyddol ger Trawsfynydd

15/03/2024
Pont Troed Llyn Trawsfynydd

Mae galwadau wedi dod i ail-agor pont droed hanesyddol yn Nhrawsfynydd sydd yn "gyswllt cymunedol pwysig."

Ers 2022 mae pont droed Llyn Trawsfynydd wedi bod ar gau i'r cyhoedd, ar ôl i bryderon gael eu codi am ei diogelwch.

Mae hyn wedi golygu bod cerddwyr yn gorfod teithio ar hyd ochr ffordd yr A470 yn lle croesi'r bont.

Bellach mae galwadau i'w hail-agor ac mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi gofyn am gyfarfod gydag awdurdodau dadgomisiynu niwclear i drafod dyfodol y bont.

Wrth godi’r mater gyda’r ddwy asiantaeth niwclear, Gwasanaeth Adfer Niwclear (NRS) a'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA), dywedodd Mrs Saville Roberts fod cau’r bont droed yn cael effaith sylweddol ar y gymuned, gan dorri ar lwybr cerdded diogel i blant ysgol lleol.

Yr asiantaethau niwclear wnaeth y penderfyniad i gau'r bont yn 2022.

"Ategaf alwadau gan drigolion, Cynghorwyr, a phlant ysgol Trawsfynydd yn eu dymuniad clir i’r bont droed ar draws pen deheuol Llyn Trawsfynydd gael ei thrwsio a’i gwneud ar gael i’r cyhoedd ei defnyddio unwaith eto," meddai.

"Mae pentref Trawsfynydd yn gryf o'r farn fod cau’r bont yn cael effaith andwyol. Mae plant Ysgol Bro Hedd Wyn, wedi ychwanegu eu lleisiau at alwadau iddi gael ei hail-agor. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i rai plant gerdded i'r ysgol ar hyd darn o gefnffordd brysur yr A470.

"Roedd y bont droed gynt yn rhan o’r daith gylchol wyth milltir o amgylch Llyn Trawsfynydd ac fe’i defnyddiwyd yn helaeth gan gerddwyr a physgotwyr. Roedd y bont o fantais ddwbl - yn osgoi llawer o'r gefnffordd a dod â cherddwyr i ganol y pentref.

"Byddai methu â dychwelyd y bont droed i ddefnydd cyhoeddus yn gadael gwaddol negyddol i gymuned Trawsfynydd o ran mynediad, yr economi leol, ac ystyriaethau iechyd a lles."

'Dod o hyd i ateb'

Dywedodd llefarydd ar ran y ddwy asiantaeth bod y penderfyniad i gau'r bont troed wedi ei wneud yn sgil pryderon am ddiogelwch y cyhoedd.

"Roedd pont droed Trawsfynydd yn destun archwiliadau cynnal a chadw blynyddol ac atgyweiriadau hyd at Awst 2022, pan gaeodd oherwydd pryderon am ddiogelwch y cyhoedd - mae'n rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth i ni. 

"Roedd y bont yn sicr o beidio â bod yn strwythurol ddiogel bellach, ac nad oedd yn hyfyw i'w hadfer oherwydd graddfa'r dirywiad.

“Ers ei gau, mae NRS a’r NDA wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned leol a rhanddeiliaid i geisio dod o hyd i ateb sy’n ystyried y defnydd gorau o arian trethdalwyr.”

Llun: Geograph / David Spicer

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.