Newyddion S4C

Vaughan Gething i ddod yn Brif Weinidog newydd Cymru

Gething

Mae disgwyl i Vaughan Gething ddod yn brif weinidog nesaf Cymru ar ôl ennill etholiad ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Fe gyhoeddwyd fore Sadwrn mai Mr Gething fydd yn olynu Mark Drakeford fel arweinydd eu plaid yng Nghymru, ac yn dod yn bumed Prif Weinidog ar Gymru dros yr wythnos nesaf.

Y ddau yn y ras oedd Jeremy Miles, y gweinidog dros addysg a’r Gymraeg, a Mr Gething, sydd wedi bod yn weinidog dros yr economi yng nghabinet Mr Drakeford.

Fe dderbyniodd Mr Gething 51.7% o'r bleidlais, gyda Jeremy Miles yn derbyn 48.3%.

Roedd 57.8% o holl aelodau Llafur wedi pleidleisio ar gyfer y ras arweinyddol.

Yn ei gyfweliad cyntaf â Newyddion S4C ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Gething ei fod yn "edrych ymlaen i apwyntio grŵp o ASau talentog" i ffurfio ei gabinet newydd.

Image
gething

Yn ei araith wedi'r cyhoeddiad, dywedodd Vaughan Gething mai ef yw'r "arweinydd du cyntaf mewn unrhyw wlad Ewropeaidd".

Fe wnaeth hefyd ddisgrifio Mark Drakeford fel "yr arweinydd cywir ar yr adeg cywir yn ystod y pandemig".

Roedd yna ganmoliaeth i'w gyd-ymgeisydd Jeremy Miles, a fyddai wedi bod yn arweinydd hoyw cyntaf Cymru, am roi "gobaith newydd" i fechgyn a genethod Cymreig "a allai fod fel arall wedi meddwl yn wahanol iawn am fywyd cyhoeddus yma".

Ychwanegodd: "Heddiw, rydym yn troi dalen yn llyfr hanes ein gwlad."

Mr Gething fydd y Prif Weinidog cyntaf sydd ddim yn siarad Cymraeg yn rhugl, ond dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod yn "edrych ymlaen i ail-ddechrau gwersi dysgu Cymraeg" yn fuan.

Gorymdaith i'r dyfodol

Dywedodd ei fod eisiau "defnyddio'r foment hon fel man cychwyn ar gyfer gorymdaith fwy hyderus i'r dyfodol".

"Fe fyddwn ni yno, yn ymladd am yr amhosib i ddigwydd. I'r perspn bach, i'r gorthrymedig," meddai.

"Dydi Yma o Hyd ddim yn ddigon bellach," meddai, gan gyfeirio at gân brotest Dafydd Iwan.

"Rydym wedi bod yma erioed, byddwn bob amser yma. Y cwestiwn i ni heddiw yw 'beth nesa?' Beth sydd nesaf?

"A allwn ni ateb yr alwad i'r genhedlaeth sy'n aros i gyflawni'r Gymru y maen nhw ei heisiau".

Image
mab gething

Wedi ei araith fe wnaeth Vaughan Gething ysgwyd llaw â Jeremy Miles.

Wedi'r cyhoeddiad fe wnaeth mab Mr Gething ei groesawu a'i gofleidio.

Ni chafodd y rhan fwyaf o bobl Cymru gyfle i ddweud eu dweud am ba un o'r ddau wleidydd fydd arweinydd newydd y wlad, gan mai pleidlais i aelodau'r blaid Lafur yn unig oedd i.

Beth fydd yn digwydd nawr?

Ar ôl i Mark Drakeford ymddiswyddo'n ffurfiol – ddydd Mawrth yn ôl y disgwyl - bydd arweinydd newydd Llafur Cymru'n cael ei enwebu yn y Senedd y diwrnod canlynol.

Mae'n bosib i'r gwrthbleidiau enwebu rhywun arall gan orfodi pleidlais yn y siambr.

Ond gan fod Llafur â hanner y seddi ym Mae Caerdydd mae'n annhebygol y bydd modd atal i'w harweinydd nhw ddod yn brif weinidog nesaf Cymru.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.