Newyddion S4C

Amrywiolyn Delta+ yn 'bryder mawr' i Lywodraeth India

Sky News 23/06/2021
India
NS4C

Mae amrywiolyn Delta+ Covid-19 yn “bryder mawr” i lywodraeth a chymuned wyddonol India, yn ôl adroddiadau Sky News.

Mae o leiaf 22 sampl o’r amrywiolyn wedi cael eu hadnabod ar draws India gan gynnwys yn Ratnagiri a Jalgaon yn nhalaith Maharashtra ac o fewn Bhopal a Shivpuri ym Madhya Pradesh.

Yn ôl adroddiadau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Lloegr, mae 41 o achosion positif o’r amrywiolyn Delta+ wedi’u darganfod yn y Deyrnas Unedig.

Mae llywodraeth ffederal India wedi gofyn i bobl sydd wedi’u heffeithio i hunan-ynysu a chysylltu ag olrhain a phrofi.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.