Dŵr Cymru: Gorchymyn i dalu £15m arall o iawndal i gwsmeriaid
Mae’r cwmni Dŵr Cymru wedi cael gorchymyn i dalu £15m arall i gwsmeriaid wedi i’r corff sy’n goruchwylio’r diwydiant ddweud eu bod nhw wedi eu camarwain.
Dywedodd Ofwat bod ymchwiliad a ddechreuodd ym mis Mai'r llynedd wedi darganfod tystiolaeth o “fethiant llywodraethol a rheoleiddiol” yn Dŵr Cymru.
Roedd y cwmni wedi cam-adrodd data perfformiad am ollyngiadau a defnydd fesul pen.
Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro am y broblem gan ddweud mai nhw dynnodd sylw Ofwat ati yn 2022.
Bydd rhaid i Dŵr Cymru dalu cyfanswm £39.4m o iawndal am eu methiannau, a bydd hynny’n arwain at filiau dwr is.
Mae’r cwmni wedi addo buddsoddi £59m yn ychwanegol o fewn pum mlynedd ar wella eu perfformiad ar ollwng dŵr a defnydd dwr.
Dywedodd David Black, prif weithredwr Ofwat: “Am bum mlynedd, mae Dŵr Cymru wedi camarwain cwsmeriaid a rheoleiddwyr ar ei record o fynd i’r afael â gollyngiadau ac arbed dŵr.
“Yn syml, does dim modd amddiffyn y peth a dyna pam rydyn ni’n gorfodi Dŵr Cymru i dalu £40 miliwn er budd ei gwsmeriaid.
“Mae cyhoeddiad heddiw yn gyrru neges i’r diwydiant bod gennym ni’r adnoddau ac y byddwn ni’n gweithredu pan fydd cwmnïau’n methu â chyflawni eu rhwymedigaethau i gwsmeriaid.”
‘Ddrwg iawn gennym’
Mae’r arian y bydd rhaid i Dwr Cymru dalu yn cynnwys:
- Ad-daliad i gwsmeriaid (£10 y cwsmer) - £15m
- Gwariant ychwanegol ar ollyngiadau a ymgorfforwyd yn 2020-22 - £15m
- Taliad am danberfformiad o dan y Cymhelldal Cyflawni Deilliannau (ODI) 2020-22 - £9.4m
Mae canfyddiadau adroddiad Ofwat yn gyson ag ymchwiliad Dŵr Cymru ei hun a rannwyd â’r rheoleiddiwr ym mis Mai 2023, medd Ofwat.
Ym mis Mawrth 2023, cynigiodd Dŵr Cymru becyn unioni gwerth £30m i’r rheoleiddiwr, a oedd yn cynnwys ad-daliad o £10 i gwsmeriaid, a roddwyd hyn ar waith yn 2023.
Yn ogystal, cynigiodd gwerth £59 miliwn o wariant i wella perfformiad o ran gollyngiadau a defnydd fesul pen.
Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Pete Perry: “Mae’n ddrwg iawn gennym fod hyn wedi digwydd. Fe fuom yn rhagweithiol wrth dynnu sylw Ofwat at y mater yn Ebrill 2022 ar ôl iddo ddod i’n sylw trwy ein proses sicrwydd ansawdd flynyddol.
“Mae canfyddiadau allweddol Ofwat o ran beth aeth o’i le yn gyson â’n hymchwiliadau ni ein hunain a rannwyd ag Ofwat, ynghyd â’n cynigion ar gyfer gwneud iawn i’r cwsmeriaid a’r buddsoddiad ychwanegol i daclo gollyngiadau a defnydd fesul pen. Talwyd ad-daliadau i 1.4 miliwn o gwsmeriaid eisoes.
"Canfu ein hadolygiad taw diffygion o ran goruchwylio llywodraethiant a rheolaeth a arweiniodd at y problemau a glustnodwyd, ac mae’r rhain bellach wedi eu datrys.
“Bydd cyflawni’r gostyngiad cynlluniedig mewn gollyngiadau’n sialens, ond rydyn ni wedi ymrwymo i gynyddu’r gwariant yn y maes yma’n sylweddol, ac wedi cryfhau’r timau gweithredol perthnasol er mwyn adfer perfformiad.”