Cyflwyno cynllun ar gyfer gwasanaeth trenau newydd rhwng Wrecsam a Llundain
Mae cyflenwr seilwaith trenau wedi cyflwyno cynllun ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd rhwng Wrecsam a Llundain.
Yn ôl Alstom, fe fydd y cynllun arfaethedig yn cynnig teithiau uniongyrchol newydd, teithiau cyflymach a phrisiau mwy cystadleuol i deithwyr.
Y bwriad yw rhedeg gwasanaeth trên rhwng Wrecsam a Llundain Euston hyd at bum gwaith y dydd i’r ddau gyfeiriad o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Bydd y gwasanaeth yn galw yn Gobowen, Yr Amwythig, Telford Canolog, Wolverhampton, Darlaston, Walsall, Coleshill Parkway, Nuneaton a Milton Keynes.
Bydd Avanti West Coast yn rhoi’r gorau i’w wasanaeth dyddiol presennol rhwng Yr Amwythig a Llundain ym mis Mehefin.
Enw'r cynllun yw Wrexham, Shropshire and Midlands Railway (WSMR), ac mae’n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â SLC Rail.
Bydd cais i redeg y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno i’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ddydd Iau.
Byddai'r WSMR yn gweithredu ar sail mynediad agored, sy’n golygu na fyddai’n derbyn unrhyw gymorthdaliadau ac yn ysgwyddo’r holl risg ariannol.
Mae Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu o dan berchnogaeth gyhoeddus.
Dywedodd y Gweinidog Rheilffyrdd, Huw Merriman: “Gallai’r cynllun cyffrous yma gynnig gwell cysylltiadau i gymunedau ar draws Gogledd Cymru a Chanolbarth Lloegr, gan gynnwys gwasanaethau uniongyrchol i Lundain o’r Amwythig, Telford a Wrecsam.
“Mae cystadleuaeth yn rhoi dewis i deithwyr ac yn codi safonau, a dyna pam rydym yn parhau i weithio gyda diwydiant i helpu i wneud y gorau o reilffyrdd mynediad agored.”
Alstom yw’r gweithredwr rheilffyrdd preifat mwyaf yng Ngogledd America.
Dyma fyddai'r tro cyntaf i'r cwmni redeg gwasanaeth yn y DU.
Llun: Comin Creu/El Pollock