Newyddion S4C

Cyfle i ddymchwel simnai ‘eiconig’ Caergybi i godi arian i fad achub

14/03/2024
Simnai Alwminiwm Môn

Mae cyfle i aelod o’r cyhoedd ddymchwel simnai ‘eiconig’ yng Nghaergybi ar Ynys Môn i godi arian i fad achub.

Bydd enillydd cystadleuaeth raffl yn cael pwyso'r botwm fydd yn dechrau dymchwel y simnai yn hen safle Alwminiwm Môn ar ddydd Mercher 20 Mawrth.

Y nod yw codi arian ar gyfer Bad Achub Caergybi er cof am Iwan Williams, aelod poblogaidd o’r criw, a fu farw'r llynedd.

Dywedodd Tony Price, llywiwr Bad Achub Caergybi: “Dros y blynyddoedd, fe roddodd Iwan fwy na 100% i achub bywydau a helpu eraill ar hyd ein harfordir.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Stena Line (perchennog y safle) am roi’r cyfle i ni gael elwa o’r digwyddiad codi arian unigryw hwn er cof amdano.

“Mae’r simnai yn adeilad eiconig ac rydym yn gobeithio y bydd pobl leol yn awyddus i gymryd rhan yn y gystadleuaeth a bod yn rhan o hanes.”

Mae’r gystadleuaeth ar agor i oedolion sy’n 18 mlwydd oed neu'n hŷn, ac mae modd cystadlu trwy roddi swm o £3 neu fwy tuag at yr achos.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 15:29 ar ddydd Llun 18 Mawrth 2024, a bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap gan system gyfrifiadurol.

‘Rhaid edrych i'r dyfodol’

Mae'r strwythur 4oo troedfedd wedi sefyll yng Nghaergybi am dros hanner canrif, ond mae perchnogion newydd y tir, Stena Line, eisiau datblygu’r safle.

Caeodd gwaith Alwminiwm Môn yn 2009. Collodd bron i 400 o bobl eu swyddi.

Mae’r safle, sydd bellach yn cael ei alw'n Barc Ffyniant, wedi ei glustnodi ar gyfer un o'r canolfannau tollau a threthi o fewn y cynllun i ddatblygu Porthladd Rhydd Môn.

Fel rhan o’r gwaith, bydd y simnai yn cael ei dymchwel.

Yn ôl Stena Line, mae'r strwythur mewn cyflwr “wael” ac yn peri “perygl i ddiogelwch”.

Fodd bynnag, mae'r penderfyniad wedi hollti barn yn lleol, gyda rhai yn dweud ei fod bellach yn rhan o hanes a threftadaeth Ynys Cybi.

Dywedodd Aaron Owen, o Fryngwran: “Fe ddylai gael ei adael yno, mae o di bod yn rhan o dirlun Ynys Môn ers sawl blwyddyn. 

“Mae’n bechod mawr os fydda nhw’n tynnu o’i lawr, mae o’n olygfa o adra i lot mawr o bobol yr ynys. Y munud odda chi yn ei weld o, odda chi’n gwybod, t’odda chi ddim yn bell o adra.

“Os mae’n ansefydlog neu beth bynnag, mae angen ei sefydlogi. Mi fydd o’n rhan o hanes yr ynys yn fuan, ac mae lot o bethau ar yr ynys yn diflannu, yn anffodus. 

"Mae’n siom i’w weld yn newid er y gwaethaf.”

Mae’r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes MBE yn dweud ei fod yn cefnogi’r penderfyniad.

“Yn bersonol, wneith o ddim gwneud gwahaniaeth i mi,” meddai.

“Mae ‘na rai sydd wedi bod yn gweithio yn Tinto [Alwminiwm Môn] dros y blynyddoedd, felly mae’n siŵr fod y strwythur yn agos at eu calonnau nhw.

“Ond os yda ni eisiau symud ymlaen, bydd pethau fel hyn yn gorfod cael eu gwneud i wella swyddi ac amgylchedd Sir Fôn.

“Dwi’n credu os yda ni eisiau edrych i’r dyfodol, mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth - a dymchwel fydd hi.

“Mae edrych i’r dyfodol yn bwysig iawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.