Heddlu’r Gogledd yn meddiannu £1.8m o gyffuriau ers 2020
Mae Heddlu’r Gogledd wedi meddiannu dros £1.8m o gyffuriau dros y flwyddyn ddiwethaf.
Cafodd 170 o arestiadau sydd yn gysylltiedig â ‘llinellau cyffuriau’ (county lines) eu gwneud yn ystod yr un cyfnod.
Daw hyn ers i’r heddlu lansio’r uned Tîm Rhwystro yn Chwefror 2020.
Cafodd arfau ac arian parod hefyd eu meddiannu, gydag un achos yn gweld £35,000 yn cael ei gymryd.
Mae’r tîm yn cael ei ariannu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Dywedodd Arolygydd Matt Geddes, sydd yn gyfrifol am y tîm: “Mae’r rhai sy’n gweithredu mewn trosedd trefnedig yn defnyddio’r ffyrdd a rhwydweithiau teithio eraill er mwyn cynnal eu gweithgareddau troseddol. Fe wnawn wneud popeth yn ein gallu er mwyn amharu arnynt a’u rhoi o flaen eu gwell.
“Mae’r elfen wybodaeth yr ydym yn ei dderbyn yn tyfu’n ddyddiol, ac fe wnawn weithredu ar y wybodaeth sy’n dod atom.”
Mae’r uned yn canolbwyntio ar dargedu unigolion a lleoliadau penodol o fewn cymdeithas sydd dan amheuaeth o droseddu.
‘Ecsbloetio plant ifanc’
Dywed Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett: “Mae’r Tîm Rhwystro yn benderfynol o fynd ar ôl gangiau trosedd trefnedig, a byddent yn parhau i amharu ar y rhai sy’n achosi problemau a gwarchod y rhai sy’n cael eu niweidio.
“Mae llinellau cyffuriau yn cael effaith mawr ar drefi ar draws y wlad ac yn ymwneud ag ecsbloetio pobl ifanc a phobl fregus. Drwy gydweithio hefo heddluoedd eraill fe wnawn barhau i weithio’n galed er mwyn gwarchod pobl fregus a phlant er mwyn sicrhau bod Gogledd Cymru’n ddiogel.”
Mae’r uned yn cydweithio gydag Uned Plismona’r Ffyrdd, Swyddogion Arfog, swyddogion cymunedol, a heddluoedd o'r tu hwnt i Gymru.