Newyddion S4C

'Angen dysgu gwersi' wedi marwolaeth merch anabl 16 oed ym Mhowys

14/03/2024
Kaylea

Mae ymchwiliad i farwolaeth merch anabl o Bowys wedi galw am nifer o welliannau i gefnogi plant sydd ag anghenion arbennig.

Roedd Kaylea Titford, oedd yn 16 oed, yn pwyso bron i 23 ston pan gafodd hi ei darganfod yn farw yng nghartref  ei theulu yn y Drenewydd ym mis Hydref 2020.

Yn ddiweddarach cafodd ei mam a'i thad eu carcharu am ei dynladdiad. Clywodd y llys bod Kaylea wedi ei darganfod "mewn amodau anaddas i unrhyw anifail, heb sôn am ferch 16 oed fregus."

Ond mae adroddiad gyhoeddwyd ddydd Iau yn beirniadu nifer o asiantaethau am ddiffyg cyfathrebu a chydlynu wrth ddelio ag anghenion Kaylea, oedd yn diodde o spina bifida.

Mae Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dweud bod angen sefydlu "cynllun gofal a chymorth" i bob person ifanc sydd ag anableddau difrifol.

Yn ogystal, medde nhw, mae angen i awdurdodau lleol sicrhau fod ganddyn nhw sustem i adnabod plant sydd ag anghenion o'r fath.

Dylid hefyd cofnodi a recordio teimladau'r plant eu hunain.

'Cydymdeimlad'

Methodd Kaylea nifer o apwyntiadau ysbytai, ac mae'r bwrdd yn dweud y dylid fod wedi cael  "gwell cyfathrebu" rhwng ysbytai, meddygon a'r teulu i geisio deall pam roedd hyn yn digwydd.

Mae nhw hefyd  yn dweud bod y ffaith bod y teulu yn byw mewn ardal wledig o Bowys wedi rhoi pwysau ychwanegol arnyn nhw, oherwydd yr angen i deithio'n bell i apwyntiadau, weithiau mewn gwahanol ysbytai yn Lloegr.

Doedd Kaylea ddim wedi bod yn yr ysgol o ddechrau'r tymor ym mis Medi hyd at ei marwolaeth ychydig dros fis yn ddiweddarach. Roedd yr ysgol wedi bod mewn cyswllt ffon dyddiol gyda'i mam, oedd yn dweud bod Kaylea yn diodde o wahanol anhwylderau, a bod hi'n bryderus am ddychwelyd i'r ysgol.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Heddlu Dyfed-Powys: "Rydym yn estyn ein cydymdeimlad diffuant i deulu’r plentyn ac i bawb y mae’r farwolaeth drasig hon wedi effeithio arnynt.

"Gobeithiwn y bydd yr adroddiad yn cyfrannu at ddysgu parhaus ehangach mewn perthynas â nifer o faterion allweddol a nodwyd yn yr adroddiad fel bod plant a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi’n llawn.’

Dywedodd y Bwrdd Diogelu y byddan nhw'n  "goruchwylio’r broses o gyflawni cynllun gweithredu rhanbarthol, ac mae'n ymrwymedig i sicrhau y bydd gwersi’n parhau i gael eu dysgu a gwasanaethau’n parhau i gael eu gwella ar draws yr holl asiantaethau."

  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.