Newyddion S4C

Cynnig gobaith o iawndal i gyn is-bostfeistr Llanymddyfri ar lawr Ty'r Cyffredin

13/03/2024
Sgandal Swyddfa'r Post

Wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno mesur yn clirio enwau is-bostfeistri gafwyd yn euog ar gam fel rhan o sgandal Swyddfa’r Post, mae achos un dyn o Lanymddyfri  wedi ei drafod ar lawr Ty’r Cyffredin.

Dywedodd Robin Ennion wrth raglen Newyddion S4C yn ddiweddar ei fod yn amcangyfri iddo golli rhyw £75,000 wrth geisio gwneud yn iawn am wallau sustem gyfrifiadurol Horizon o'i boced ei hun.

Bu'r arian yn diflannu o'i gyfri dros gyfnod o 18 mlynedd, rhwng Rhagfyr 2000 a Medi 2018..

Dywedodd Mr Ennion ar y pryd nad oedd am wneud cais am iawndal, gan ei fod wedi colli ffydd yn Swyddfa’r Post, ei bod yn ofni bod y system iawndal yn gymhleth, a'i fod wedi dioddef o broblemau iechyd.

Fel rhan o gyhoeddiad y llywodraeth heddiw (13 Mawrth) dywedodd Gweinidog Swyddfa’r Post Kevin Hllinrake A.S y byddai “gwell” iawndal i gyn is-bostfeistri fel Mr Ennion, wnaeth  geisio ‘cywiro’ gwallau Horizon gyda’u harian personol.

Bydd hawl iddyn nhw nawr wneud cais am iawndal sefydlog o £75,000.

Wrth godi cwestiwn ar ran Mr Ennion fel un o’i etholwyr yn sgil ei gyfweliad, gofynodd yr Aelod Seneddol annibynnol Jonathan Edwards  beth allai gael ei wneud er mwyn annog Mr Ennion ac eraill mewn sefyllfa debyg iddo i wneud cais am iawndal?

Mewn ymateb, dywedodd Kevin Hollinrake: “Gobeithiaf bod ein cyhoeddiad heddiw yn cynnig y llwybr iawn i’ch etholwr.”

“Mae’n golygu na fydd yn rhaid iddo fynd drwy broses o gyflwyno cais all fod yn un gymhleth.”

“Gall fynd am y swm sefydlog o £75,000 a cherdded i ffwrdd. Does dim ffurflen gais i’w llenwi – mae angen arwyddo llythyr a dyna ni.”

“Os yw e’n teimlo’i fod yn haeddu mwy na hynny, gall fynd drwy’r Horizon Shortfall Scheme. Mae hynny yn cymryd ychydig yn hirach ond yn golygu y caiff iawndal am ei golled ariannol a’r effaith ar ei iechyd.”

“Rwy’n hapus i helpu lle y gallaf gyda’r achos hwn.”

Dywedodd Mr Ennion wrth Newyddion S4C ei fod yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw ac y byddai o bosibl yn gwneud cais am iawndal dan y cynllun newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.