Newyddion S4C

Beirniadu penderfyniad i symud gwasanaethau ambiwlans awyr y gogledd

13/03/2024
Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru

Mae argymhelliad i gau dau o feysydd ambiwlans awyr yn y gogledd wedi eu beirniadu ddydd Mercher.

Fe ddaw'r feirniadaeth wedi i adroddiad gan Brif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans, Stephen Harrhy, gymeradwyo awgrymiadau i uno gwasanaethau meysydd ambiwlans awyr Caernarfon a’r Trallwng mewn lleoliad newydd, gan olygu y byddai’r ddau wasanaeth awyr yn cael eu cau.

Mae’r adroddiad yn nodi y dylai’r meysydd gael eu huno mewn lleoliad newydd i’r de o'r Rhyl/Rhuddlan. 

Dywedodd aelodau seneddol Plaid Cymru Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor eu bod wedi “siomi” gan yr argymhelliad a fyddai’n “peryglu” diogelwch pobl ledled y gogledd orllewin a’r canolbarth.

“Mae'r penderfyniad hwn yn gam yn ôl o ran darparu gofal meddygol ar frys yn ein cymunedau gwledig – ac fe ddaw yn sgil data amheus a phroses ymgynghori ddiffygiol.

“Roedd gan Lywodraeth Lafur Cymru'r gallu, yn ogystal â’r cyfle, i ddylanwadu ac ymyrryd yn y broses hon ond dewisodd ddweud dim byd."

Ychwanegodd y gwleidyddion nad oedd yr adroddiad yn ystyried “pryderon go iawn” eu hetholwyr yn Nwyfor Meirionnydd, a bod methiant ar ran y llywodraeth wrth sicrhau bod y gwasanaeth ambiwlans yn darparu gofal “cyfartal” i bawb yng Nghymru.

Yn ôl yr adroddiad, fe ddaw’r argymhellion oherwydd ei bod yn angenrheidiol bod Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gofal gan sicrhau mwy o “fynediad,” yn ogystal ag “effeithlonrwydd” yn eu gwasanaethau.

“Mae hyn yn arbennig o ofynnol yn ystod oriau'r nos, pan nad oes mynediad gan oddeutu 530,000 o bobl yn y gogledd at awyren o fewn 60 munud ar ôl 20.00,” meddai’r adroddiad.

Yn ogystal â beirniadaeth gan wleidyddion Plaid Cymru, mae’r adroddiad hefyd wedi bod yn destun sylwadau cryfion gan bobl leol ar y cyfryngau cymdeithasol – gyda rhai yn benderfynol o ymgyrchu yn erbyn y cam.

Mewn ymateb dywedodd Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor: “Mae canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng yn hanfodol ac mae'n anffodus dros ben ei bod yn edrych yn debyg y bydd cefn gwlad Cymru yn gorfod dioddef canlyniadau o gael eu canolfan ganolog yng ngogledd-ddwyrain Cymru.”

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Llywodraeth Cymru am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.