Biden a Trump i wynebu ei gilydd yn etholiad arlywyddol yr UDA
Fe fydd Joe Biden a Donald Trump yn mynd benben ar gyfer etholiad arlywyddol yr UDA ar ôl i'r ddau sicrhau digon o bleidleisiau i gynrychioli eu plaid.
Mae hyn yn golygu y bydd Americanwyr yn gorfod dewis rhwng yr un ddau ymgeisydd â'r etholiad arlywyddol yn 2020.
Fe wnaeth pedair talaith, un diriogaeth Americanaidd tramor a Democratiaid sy'n byw dramor, gynnal eu henwebiadau nos Fawrth.
Dywedodd Mr Biden nos Fawrth ei fod yn "anrhydedd" fod pleidleiswyr wedi cefnogi'r ymgyrch i'w ail-ethol "ar adeg lle mae'r bygythiad gan Trump yn fwy nag erioed".
Yn y cyfamser, mae Mr Trump yn parhau yn boblogaidd iawn ymysg pleidleiswyr Gweriniaethol.
Mae ei ymgais i geisio sicrhau ail dymor yn y Tŷ Gwyn wedi canolbwyntio ar reolau mewnfudo llymach, gan gynnwys addewid i "gau'r ffin".
Roedd prif wrthwynebwyr Mr Biden a Mr Trump eisoes wedi ildio fel ymgeiswyr cyn nos Fawrth, gan gadarnhau i bob pwrpas mai Donald Trump a Joe Biden fyddai ymgeiswyr eu pleidiau yn yr Etholiad Arlywyddol eleni.
Er bod yna nifer o daleithiau heb gynnal eu henwebiadau eto, mae Mr Biden a Mr Trump bellach wedi pasio'r trothwy o sicrhau digon o bleidleisiau i gael eu dewis fel ymgeisydd eu pleidiau.
Fe fydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 5 Tachwedd eleni.