Newyddion S4C

Canolfan y Mileniwm yn wynebu 'heriau ariannol a bwlch sgiliau' wrth ddathlu 20 mlynedd

12/03/2024

Canolfan y Mileniwm yn wynebu 'heriau ariannol a bwlch sgiliau' wrth ddathlu 20 mlynedd

2002 a dechrau'r gwaith o greu un o adeiladau mwyaf adnabyddus Cymru, Canolfan y Mileniwm ar gost o £106 miliwn.

Eleni, mae'n nodi 20 mlynedd fel cartref celfyddydol i Gymru.

"Ni eisiau bod yn gartref creadigol i bawb. Os dw i'n gwerthu pob tocyn i bob sioe dros y flwyddyn nesaf dydy e ddim yn ddigon i dalu'r costau ychwanegol fel utility bills. Hwnna ydy'r sialens massive i ni.

"Rhaid ffeindio ffordd newydd i wneud gwaith a gwneud busnes, jyst i keep up with costs a beth sy'n digwydd."

Wrth edrych i'r 20 mlynedd nesa, beth yw'r prif her fel canolfan?

"There's a deficit in production and producing and technical skills. With funding cuts in education and in arts and culture it's really difficult to bring those people through into the business."

Heb os, dyma un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru. Mae wedi llwyfannu cynyrchiadau a pherfformwyr mwya'r byd. Ond teg yw dweud bod y lle hwn wedi wynebu ei siâr o heriau.

Cyn y Nadolig, dywedodd Pennaeth y Ganolfan fod y sector celfyddydol mewn creisis a'i fod yn pryderu i'r ganolfan wrth edrych i'r dyfodol. Yn y pandemig, bu rhaid cau'r llen ac atal perfformiadau am fisoedd gyda bygythiad i 250 o swyddi.

Mae dyledion Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd wedi'u dileu. Mae'r ganolfan ei hun wedi bod yng nghanol drama wleidyddol go iawn. Yn 2007, penderfynodd Llywodraeth Cymru i dalu dyledion y ganolfan swm o dros £13 miliwn.

Roedd hynny'n hynod dadleuol fel mae'r Gweinidog Treftadaeth ar y pryd yn cofio.

"O'n i'n gweld Canolfan y Mileniwm fel sefydliad cenedlaethol a bod rhaid trin sefydliadau cenedlaethol yn wahanol i sefydliadau arferol a chwmnïau celfyddydol arferol. Heb sefydliadau cenedlaethol, does ganddon ni ddim cenedl.

"Mae'n bwysig ei bod nhw'n rheoli ei llifeiriant ariannol ac yn sicrhau bod nhw ddim yn y sefyllfa yma bob degawd. Mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i sicrhau bod y sefydliadau yma yn bodoli."

"Digwydd bod, o'n i'n ymarfer yn yr ystafell yna."

Mewn cyfnod o doriadau i'r sector celfyddydol a'r ganolfan yn poeni am effaith bwlch sgiliau yn y dyfodol, sut mae'r rheiny yn y diwydiant yn teimlo?

"Mae'n bryder achos er mwyn gwneud be dw i'n neud mae'n rhaid cael y gwaith o flaen llaw ac yn ystod. Roedd Branwen yn blueprint i ddangos bod o'n bosibl creu cynhyrchiad o'r fath.

"Mae cymaint yn mynd ymlaen tu ôl i'r llen dyw pobl ddim yn gweld."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn gyda'i chyllideb yn £1.2 biliwn yn llai mewn termau go iawn.

Dros y blynyddoedd, mae'r ganolfan 'di gorfod ymateb i sawl her.

Wrth edrych i'r dyfodol yn ei hugeinfed blwyddyn, efallai bod yr ysgrifen ar y mur bod mwy o heriau eto i ddod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.