Newyddion S4C

Dros hanner pobl Cymru yn teimlo cywilydd o iechyd meddwl

13/03/2024
Izzy Stevenson

“Roedd gen i shwd gymaint o gywilydd, ‘nes i guddio fy niagnosis am bron i 13 mlynedd gan ofni’r hyn yr oedd pobl am ddweud.” 

Dyma eiriau Izzy Stevenson, 35 oed o Sir Benfro, a gafodd ddiagnosis o iselder yn 14 oed. 

Mae’r fam i ddau o blant bellach yn benderfynol o chwalu’r stigma ynghlwm a phroblemau iechyd meddwl. Roedd hi wedi teimlo cywilydd am dros ddegawd ac yn ofn gofyn am help. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Pan ges i’r diagnosis 21 mlynedd yn ôl, yr oll o’n i’n gwybod am iechyd meddwl oedd yr hyn o’n i’n gweld yn y cyfryngau, ffilmiau, a’r papurau newydd. 

“Ac ‘odd geiriau fel ‘gwallgof’ neu ‘seico’ yn codi cywilydd arna’i… o’n i’n ofni byswn i’n cael fy labeli gyda’r geiriau ‘na hefyd. 

“Y tu allan i’r cwnselydd lleol, doedd e ddim yn rhywbeth o’n i erioed ‘di siarad amdano – ddim adre’ na’ gyda ffrindiau. 

“Fe ddaeth e’n gyfrinach frwnt roedd rhaid i mi gadw.”

Roedd cadw cyfrinach o’r fath wedi arwain at sefyllfaoedd niweidiol yn ystod ei magwraeth hefyd, meddai. 

“Wnes i roi fy hunan mewn sefyllfaoedd peryglus achos o’n i ddim eisiau bod ar ben fy hunan gyda fy meddyliau. 

“Yn anffodus fe wnaeth hynny arwain at ganlyniadau niweidiol ar adegau.” 

'Rhwystr enfawr'

Yn ôl elusennau iechyd meddwl mae dros hanner pobl Cymru yn teimlo cywilydd am fyw gyda salwch meddwl. Mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU, sef partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl yn ceisio mynd i'r afael â’r broblem.

Maen nhw'n dweud bod 58% o'r boblogaeth yn credu bod lefelau uchel o gywilydd yn dal i fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl.

Roedd 9% o bobl yn credu y dylai pobl deimlo cywilydd o’r fath, a hynny’n peri rhagor o bryder meddai’r mudiad.

Un sy’n awyddus i fynd i’r afael â’r stigma hwnnw, gan annog pobl i fod yn fwy “gofalus” a llai “beirniadol” gyda’u geiriau yw Natalie Dinnick o Gaerdydd.

Yn fam i ddau o blant, fe gafodd Ms Dinnick, 47 oed, ddiagnosis o iselder a gorbryder ddegawd yn ôl.

Roedd yr iaith yr oedd pobl o’i chwmpas yn ei defnyddio ar y pryd yn atal Ms Dinnick rhag gofyn am help, meddai. 

“Pan o’n i’n rili gwael ac yn meddwl, ‘Beth yw’r pwynt? Pam ydw i dal yma?,’ ac yn meddwl am hunanladdiad, dywedodd aelod o’m teulu: ‘Y bobl ‘ma sy’n dweud bod iselder gyda nhw – dydy o ddim yn bodoli, mae angen pobl i dynnu eu hunain at ei gilydd. 

“’Nath hwnna sticio gyda fi, a phenderfynais o’n i methu dweud unrhyw beth. 

“Roedd y stigma hwnnw'n rhwystr enfawr,” meddai.

Image
Natalie
Natalie Dinnick

'Meddwl ddwywaith'

Fel rhan o’i ymdrechion i daclo’r stigma, mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU wedi lansio’r ymgyrch 'Os yw hi’n Oce'.

Yn ôl y gynghrair: " 'Mae’n oce i beidio â bod yn oce’ yw un o’r llinellau sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf wrth sôn am iechyd meddwl – ond i lawer sy’n profi salwch meddwl, nid yw hyn bob amser yn wir."

Fel rhan o’r ymgyrch, mae’r bartneriaeth yn galw ar unigolion i olygu’r hyn maen nhw’n ei ddweud gan annog pobl i herio achosion o godi cywilydd a gwahaniaethu ar gyfer y rheiny sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl.

Dywedodd Lowri Wyn Jones, sef rheolwraig rhaglen Amser i Newid Cymru: “Fel cynghrair o raglenni gwrth-stigma ar draws y DU, rydyn ni’n cael gwybod yn rhy aml am y cywilydd a’r feirniadaeth y mae pobl yn eu hwynebu am brofi salwch meddwl.  

“Fel cenedl, rhaid i ni wneud yn well ac edrych yn fewnol ar ein hymddygiad ein hunain tuag at eraill a sut y gallwn ddod yn fwy tosturiol a gobeithio meddwl ddwywaith am yr hyn yr ydym yn ei wneud, yn ei ddweud ac yn gweithredu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.