Newyddion S4C

Tywysoges Cymru yn ymddiheuro am olygu llun ohoni hi a'i phlant

12/03/2024

Tywysoges Cymru yn ymddiheuro am olygu llun ohoni hi a'i phlant

Dyma'r llun oedd i fod i roi taw ar y dyfalu. Y dywysoges a'i thri phlentyn yn dathlu Sul y Mamau. Ond o gymryd golwg fanylach fe godwyd amheuon bod y llun wedi cael ei drin.

Llaw Charlotte ddim yn cydfynd a'i llawes yn un enghraifft a nifer o asiantaethau newyddion o ganlyniad yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r llun yn gyfan gwbl. Gyda'r bore, fe ddaeth ymateb Catherine ar y cyfryngau cymdeithasol yn cydnabod ei bod o dro i dro yn golygu lluniau ac yn ymddiheuro am unrhyw ddryswch.

Faint o gam gwag oedd hyn?

"Mae hwn wedi bod yn gamgymeriad. Maen nhw 'di lladd y stori. Mae'r frenhiniaeth yn fregus a'r broblem gyda stori fel hyn yw ei fod yn tynnu urddas y sefydliad i lawr. Mae hynny yn ei dro yn tanseilio hygrededd y sefydliad.

"Mae'n rhaid iddynt gymryd gofal. Ond, serch hynny, mae hwn yn sefyllfa sensitif iawn. Dw i'n siwr y bydd y cyhoedd yn maddau i'r dywysoges."

Oes 'na beryg y bydd mwy o ddyfalu yn sgîl hyn?

"Y broblem wrth gwrs yw mae'r math yma o beth yn agor y drws i fwy o ddyfalu. Mae pob papur newydd yn gwthio ei big i fewn i bob cornel o fusnes y frenhiniaeth.

"Dyna pam mae hwn yn sefydliad bregus ac yn sefydliad sy'n dibynnu ar farn y bobl. Mae'n rhaid iddynt gymryd gofal yn y dyfodol."

Mae 'na ddigon o ddyfalu wedi bod yn barod oherwydd dydy'r dywysoges heb ei gweld yn gyhoeddus ers y llawdriniaeth fis Ionawr a phrin yw'r manylion am hynny. Er bod ei gwr yn ôl wrth ei ddyletswyddau.

Eto, oes modd gorymateb o ystyried mor rhwydd ydy hi i newid lluniau yma ac acw?

"Mae technoleg wedi newid yn syfrdanol yn y 10 mlynedd dwetha. Dos yn ôl 10 mlynedd nôl roedd rhywun yn medru addasu llun ar gyfrifiadur. Rŵan, mae modd newid ansawdd llun, newid lluniau ar dy ffôn.

"Mae mor hawdd i'w wneud. Dw i'm yn dallt beth yw'r fuss mawr am y peth."

Fe ddaeth cip o Catherine y prynhawn yma wrth iddi adael Windsor gyda'i gŵr.

Does wybod eto a fydd ei hesboniad yn ddigon i atal y dyfalu, ond does dim disgwyl iddi ailafael yn ei dyletswyddau brenhinol tan wedi'r Pasg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.