Pobol y Cwm: Cymeriad newydd yn cyrraedd Cwmderi
Fe fydd ffans o'r gyfres sebon Pobol y Cwm yn cael eu cyflwyno i gymeriad newydd sbon yr wythnos hon.
Fe fydd cymeriad Eleri, sy'n ferch i Brynmor yn cyrraedd Cwmderi yn y bennod nos Fercher.
Mae'r actores fydd yn chwarae rhan Eleri yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, gan ei bod eisoes wedi serennu ar rai o brif ddramâu'r sianel dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn wreiddiol o Rydaman, mae Sara Gregory wedi ymddangos mewn cyfresi fel Alys, Yr Amgueddfa a Byw Celwydd ar y sianel.
Dywedodd Sara wrth Newyddion S4C: “Dwi’n edrych ‘mlaen yn fawr i ymuno â thrigolion Cwmderi.
"Mae’n rhaglen nes i wylio yn tyfu lan, felly mae’n gyffrous i fod yn rhan o’r tîm.”
Wrth ddisgrifio ei chymeriad, Eleri, fe ychwanegodd Sara: “Mae’n corddi rhai ag ennill calonnau eraill. A dwi’n cael lot o hwyl yn ei chwarae hi, mor belled!"
Fe enillodd Sara Wobr BAFTA Cymru am yr Actores Orau, yn dilyn ei rôl fel y prif gymeriad yn nrama Alys ar S4C.
Mae Sara hefyd yn ferch i Adrian Gregory, oedd ar un adeg yn cyflwyno'r rhaglen boblogaidd 'Y Brodyr Bach' ar S4C yn y 90'au.