Newyddion S4C

Gwrandawiad Covid yn clywed fod y Cymry yn cael eu trin fel 'dinasyddion eilradd'

12/03/2024

Gwrandawiad Covid yn clywed fod y Cymry yn cael eu trin fel 'dinasyddion eilradd'

Roedd y Cymry yn cael eu trin fel "dinasyddion eilradd" gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig adeg y pendemig, yn ôl y Farnwes Eluned Morgan.    

Dywedodd hynny tra'n rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad Covid sy'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd.  

Roedd hi'n Weinidog Iechyd yn Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod ola'r pandemig, ar ôl cymryd yr awenau oddi ar Vaughan Gething. 

Tra'n cael ei holi ddydd Mawrth, ychwanegodd y Farnwes Morgan fod pobl yng Nghymru yn teimlo bod San Steffan yn eu hanwybyddu. 

Roedd hi'n cyfeirio ar y pryd at benderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfnod clo byr yn Hydref 2020, a phenderfyniad Llywodraeth y DU i wrthod a chynorthwyo yn ariannol er mwyn ei gadw mewn lle am gyfnod hwy.

Dywedodd y Farnwes Morgan: “Roedd gennyn bryderon mawr am allu ariannol Llywodraeth Cymru ar y pryd i gynnal cyfnod clo mor hir ag oedd yn angenrheidiol. 

“Roedd gwyddonwyr yn argymell i ni wneud hynny am dair wythnos. Dwi ddim yn meddwl fod gennym y grym economaidd ar y pryd i gynnal cyfnod clo byr am dair wythnos.”

Siomedig 

Ychwanegodd fod "arafwch Llywodraeth y DU wrth gynnig cymorth ariannol yn siomedig".

“Rwy'n credu fod hynny yn gyfnod anodd i ni fel cenedl, ohewrwydd 'dw i'n credu fod pobl yn teimlo eu bod yn ddinasyddion eilradd yn llygaid Llywodraeth y DU," meddai.

Yn ddiweddarach yn y gwrandawiad, cafodd negesuon testun ac E-byst Eluned Morgan o gyfnod y pandemig eu trafod.  

Roedd un wedi ei hanfon at gyd-weithiwr yn fuan wedi iddi ddechrau yn ei swydd fel Gweinidog Iechyd, a oedd yn nodi yn Saesneg "ry'n ni i gyd yn f****d."  

Ymddiheurodd y Farwnes Morgan am ei hiaith "liwgar" gan ychwanegu na fyddai ei gŵr yn hapus iawn i glywed hynny ag yntau yn offeiriad.   

Yn debyg i weinidogion eraill Llywodraeth Cymru, yn cynnwys Vaughan Gething a gafodd ei holi ddydd Llun, bu'n rhaid i'r Farnwes Morgan egluro pam bod rhai o'u negeseuon wedi eu dileu.   

“Dydw i ddim yn gwybod pam na phryd, ond mae'n glir bod hynny wedi digwydd gwpwl o weithiau yn unig," meddai. 

Cafodd ei llyfr nodiadau ei ddangos hefyd i'r ymchwiliad, a oedd yn dangos iddi gwestiynu a oedd Matt Hancock, Ysgrifenydd Iechyd San Steffan, yn "anobeithiol" a chyfeiriad at y Prif Weinidog Boris Johnson gyda'r geiriau "anhrefn." 

Mae'r ymchwiliad yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.