Newyddion S4C

£500,000 i roi tocynnau am ddim i'r ddwy Eisteddfod

13/03/2024
Jeremy Miles a Betsan Moses yn yr Eisteddfod

Bydd tocynnau am ddim ar gael i deuluoedd incwm is i fynd i'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd eleni.

Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r arian sef £350,000. Maent yn dweud y bydd hyn yn golygu y gall dros 18,000 o bobl leol gael mynediad am ddim a thalebau bwyd am ddim i'r Eisteddfod.

Bydd tocynnau mynediad am ddim hefyd i unigolion a theuluoedd o gartrefi incwm is ar gyfer Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn eleni. Mae'r llywodraeth wedi rhoi £150,000 i'r Urdd.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod gynnig tocynnau am ddim ac yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles y bwriad ydy rhoi cyfle i bawb gael mynediad at y Gymraeg.

“Mae’r eisteddfodau nid yn unig yn uchafbwynt diwylliannol yn y calendr Cymreig, ond hefyd yn gyfle gwych i bobl weld, clywed a siarad Cymraeg, a chymryd rhan yn y gwahanol gystadlaethau a digwyddiadau cymdeithasol sydd ar gael.

"Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rwyf am sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i fynychu a mwynhau ein heisteddfodau.”

'Mwy na thocyn'

Yn ôl Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol mae'n bwysig sicrhau bod yr eisteddfodau'n hygyrch. 

"Rydyn ni’n meddwl ei bod hi'n hollbwysig ein bod ni’n gallu cynnig mwy na thocyn maes er mwyn sicrhau bod ein gŵyl yn hygyrch i bawb sy’n dymuno dod draw i Barc Ynysangharad ddechrau Awst, mwynhau diwrnod arbennig a chael blas ar ein hiaith a diwylliant.

“Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y tocynnau maes o law, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb atom i Rondda Cynon Taf yn fuan.”

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE mai'r bwriad yw rhoi cyfle i bawb ddod i'r brifwyl: “I lawer o bobl yn Rhondda Cynon Taf, dyma’r Eisteddfod gynta' iddyn nhw ei chael ar stepen y drws. 

Yn ystod yr argyfwng costau byw, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib, beth bynnag fo’u hamgylchiadau, yn gallu ymuno a chael eu hysbrydoli gan yr Eisteddfod.

“Fel Cyngor, rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’r Eisteddfod i greu digwyddiad cynhwysol y gall y gymuned gyfan fod yn rhan ohono, ac mae’r cyllid yma'n tanlinellu’r uchelgais hwnnw.”

Yr Eisteddfod Genedlaethol fydd yn gweinyddu’r cyllid a gwerthiant tocynnau.

Bydd yr Urdd yn cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer tocynnau mynediad ar 18 Mawrth, ar ôl cynnal yr holl Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth.

Llun: Llywodraeth Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.