27 neidr wedi eu darganfod ar ochr ffordd yng ngorllewin Cymru
Mae 27 o nadredd, ac un ohonyn nhw yn 17 troedfedd o hyd, wedi eu darganfod yn farw wrth ymyl heol wledig yng ngorllewin Cymru.
Roedd pedair iar hefyd wedi eu gadael ar y safle yn Waterston, Sir Benfro.
Mae cymdeithas yr RSPCA yn apelio am wybodaeth ar ôl i'r creaduriaid gael eu darganfod mewn bocsys, bagiau sbwriel a gobennydd.
Roedd hyd y nadredd yn amrywio o un i 17 o droedfeddi. Mae 17 troedfedd yn debyg i daldra jiraff.
Yn ôl Keith Hogben o'r RSPCA, hwn yw un o'r achosion gwaethaf iddo ddelio ag e yn y chwarter canrif ddiwethaf.
“Roedd pedair iar farw wrth ymyl y nadredd, ac rwy'n meddwl eu bod nhw fwy na thebyg yn fwyd ar gyfer y nadredd mwyaf, "meddai.
“Mae'n drist meddwl bod y nadredd yma druan wedi dioddef ers cryn gyfnod.
“Mae'n rhaid ei fod yn brofiad ofnadwy i'r person a ddaeth o hyd iddyn nhw."
Y bwriad yw cynnal archwiliad post mortem ar rai o'r nadredd, er mwyn ceisio darganfod beth achosodd eu marwolaethau.
Mae'r RSPCA yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 0300 123 8018, gan ddyfynnu'r rhif 01233065.