Newyddion S4C

Teyrngedau i dechnegydd RAF o Gymru fu farw mewn gwrthdrawiad yn yr Alban

11/03/2024
David Thorne

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i dechnegydd RAF o Gymru fu farw mewn gwrthdrawiad yn yr Alban.

Bu farw'r corporal David Thorne, 43 oed, mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A96 yn Huntly ddydd Mawrth yr wythnos diwethaf am tua 11.30am.

Roedd y tad i dri o Gwmbrân a oedd wedi bod yn yr Awyrlu Brenhinol ers 26 o flynyddoedd ar gefn beic modur Honda VFR800 a wrthdarodd â char BMW i4.

Bu farw yn y fan a’r lle.

Roedd Mr Thorne yn gwasanaethu yn Lossiemouth ym Moray pan fu farw.

Roedd wedi gwasanaethu yn y Falklands, yn ogystal â dwywaith yn Afghanistan a Cyprus ar ddau achlysur.

Disgrifiwyd Mr Thorne, a oedd hefyd â dau o wyrion, gan gydweithwyr fel dyn “anhunanol” a oedd yn gweithio y tu hwnt i’w oriau i gefnogi hyfforddeion a helpu gyda chynnal a chadw.

Roedd hefyd wedi gweithio fel hyfforddwr a dywedodd llefarydd ar ran yr Awyrlu ei fod wedi “trosglwyddo ei brofiad i’r genhedlaeth nesaf o dechnegwyr Tornado a Typhoon”.

'Cyfraniad enfawr'

Dywedodd rheolwr gorsaf RAF Lossiemouth, Jim Lee: “Rydym i gyd wedi uno mewn galar yn dilyn colled un o’n cydweithwyr annwyl, y Corporal Dave Thorne. Ar ôl gwasanaethu yma am dros 16 mlynedd, gwnaeth gyfraniad enfawr ar draws yr orsaf.

“Roedd yn poeni am bobl ac roedd yn angerddol am wella eu bywyd o ddydd i ddydd yn y gwaith,” meddai.

“Mae ei deulu yn ein meddyliau ar yr amser anodd hwn ac rydym yn barod i’w cefnogi gyda beth bynnag sydd ei angen arnynt.”

Dywedodd y Rhingyll Peter Henderson, o uned plismona ffyrdd gogledd ddwyrain yr Alban eu bod yn “gobeithio sefydlu amgylchiadau llawn y gwrthdrawiad”.

“Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth i gysylltu â ni,” meddai.

“Rydym hefyd yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd ar y ffordd adeg y ddamwain a allai fod â lluniau camera dashfwrdd i gysylltu â ni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.