Newyddion S4C

Canolfan y Mileniwm yn wynebu 'heriau ariannol a bwlch sgiliau' wrth ddathlu'r 20

Newyddion S4C 11/03/2024

Canolfan y Mileniwm yn wynebu 'heriau ariannol a bwlch sgiliau' wrth ddathlu'r 20

Heriau ariannol a bwlch sgiliau yn y sector fydd y prif heriau i Ganolfan y Mileniwm wrth edrych i’r dyfodol, medd penaethiaid y safle ym Mae Caerdydd. 

Fe ddaw’r sylw wrth i’r Ganolfan ddathlu ugain mlynedd ers ei sefydlu gan greu cartref celfyddydol i Gymru ac un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi toriadau o 10.5% i’r sector celfyddydol gan fynnu bod eu cyllideb 1.2 biliwn yn llai mewn termau go iawn. 

“Hyd yn oed os ni’n gwerthu pob tocyn i bob sioe dros y flwyddyn nesa, dydy e ddim yn ddigon i dalu y costau ychwanegol fel utility bills. So hwnna yw’r sialens massive i ni,” meddai Emma Evans, Pennaeth Profiadau Creadigol Canolfan y Mileniwm. 

“Ma na fwlch mawr o safbwynt cynhyrchu a sgiliau technoleg hefyd. Gyda thoriadau cyllid i addysg, yn enwedig y diwydiant celfyddydau a diwylliant fe fydd yn anoddach dod â'r bobl hynny drwodd i’r busnes”

Cyn y Nadolig, fe ddywedodd pennaeth y ganolfan, Graeme Farrow fod y sector celfyddydol mewn argyfwng a’i fod yn pryderu am ddyfodol y ganolfan.

Pan darodd y pandemig, bu rhaid cau’r llen ac atal perfformiadau am fisoedd, gyda bygythiad i ddau gant a hanner o swyddi. 

Ac mae’r ganolfan ei hun wedi bod yng nghanol drama wleidyddol go iawn. Yn 2007, fe  benderfynodd Llywodraeth Cymru i dalu dyledion y ganolfan o 13 miliwn o bunnau. 

“O ni’n gweld Canolfan y Mileniwm fel sefydliad cenedlaethol a bod rhaid trin sefydliadau cenedlaethol yn wahanol i sefydliadau arferol a chwmniau celfyddydol arferol,” meddai Rhodri Glyn Thomas, Cyn-weinidog Treftadaeth Llywodraeth Cymru. 

“Oherwydd heb sefydliadau cenedlaethol does gennym ni ddim cenedl.

“Mae'n bwysig eu bod nhw’n rheoli ei llifeiriant ariannol ac yn sicrhau bod nhw ddim yn cael eu hunain yn y sefyllfa yma bob degawd ond ma' 'na gyfrifoldeb ar y llywodraeth hefyd i sicrhau bod y sefydliadau yma yn bodoli.”

'Pryder'

Mae’r sector gelfyddydol yn wynebu toriadau gan Lywodraeth Cymru o 10.5% gan daro sefydliadau fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.  

Mae Canolfan y Mileniwm yn poeni am effaith bwlch sgiliau yn y dyfodol ac mae’n gyfnod pryderus, yn ôl rhai perfformwyr. 

“Mae yn bryder achos yn amlwg i wneud be allai wneud ma' rhaid cael y gwaith gefn llwyfan hefyd,” meddai'r gantores Mared Williams, a fu’n rhan o gynhyrchiad Branwen: Dadeni yn y ganolfan y llynedd. 

“Roedd Branwen jyst yn blueprint i ddangos bod e’n bosib creu cynhyrchiad o’r fath ond mae yna gymaint yn mynd ymlaen tu nôl i’r llen hefyd, dyw pobl ddim yn gweld."

Yn ol Llywodraeth Cymru, bu’n rhaid gwneud ‘penderfyniadau anodd iawn’ yn y maes celfyddydol gyda’u cyllideb yn 1.2 biliwn o bunnoedd yn llai mewn termau real. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.