Tywysoges Cymru yn ymddiheuro am olygu llun ohoni hi a'i phlant
Tywysoges Cymru yn ymddiheuro am olygu llun ohoni hi a'i phlant
Mae Tywysoges Cymru wedi ymddiheuro am olygu llun teulu a gafodd ei gyhoeddi gan y teulu brenhinol i nodi Sul y Mamau.
Mewn datganiad, a gafodd ei arwyddo’n bersonol gan y Dywysoges, dywedodd: “Fel llawer o ffotograffwyr amatur, rydw i’n arbrofi gyda golygu o bryd i’w gilydd.
"Rydw i eisiau ymddiheuro am unrhyw ddryswch a achoswyd gan y llun teuluol a rannwyd gennym ddoe. Gobeithio bod pawb sy’n dathlu wedi cael Sul y Mamau hapus iawn."
Ddydd Sul roedd rhai asiantaethau ffotograffiaeth ryngwladol wedi dweud na fyddan nhw yn defnyddio llun o Dywysoges Cymru oherwydd pryderon ei fod wedi cael ei addasu.
Dyma oedd y llun cyntaf o'r Dywysoges Catherine i gael ei rhyddhau i'r wasg ers iddi fod yn yr ysbyty ym mis Ionawr.
Fe gafodd y llun ei dynnu gan y Tywysog William yn Windsor yn gynharach yn yr wythnos.
Erbyn bore Llun roedd Getty Images, AFP, Reuters, Associated Press a PA wedi penderfynu peidio defnyddio'r llun gan nodi “anghysondeb o ran llaw chwith y Dywysoges Charlotte”.
Mae'r llun yn dangos y dywysoges yn eistedd i lawr, wedi'i hamgylchynu gan y Dywysoges Charlotte, y Tywysog Louis a'r Tywysog George.
Cafodd y llun ei gynnwys ar dudalennau blaen nifer o bapurau newydd a gwefannau cenedlaethol a’i ddefnyddio ar fwletinau newyddion teledu.
Ond, yn hwyr ddydd Sul, cyhoeddodd Associated Press ei bod am dynnu'r llun yn ôl.
"Wrth archwilio'n agosach mae'n ymddangos bod y ffynhonnell wedi trin y ddelwedd. Ni fydd llun arall yn cael ei anfon,"dywedodd llefarydd ar ran Associated Press.
Yn ddiweddarach fe benderfynodd asiantaethau eraill wneud yr un peth.