Newyddion S4C

Oppenheimer yn ennill saith gwobr yn yr Oscars

11/03/2024
Cillian Murphy gyda'i wobr Oscars

Oppenheimer oedd prif enillydd yr Oscars eleni wrth i'r ffilm gipio saith gwobr gan gynnwys y ffilm orau a'r cyfarwyddwr gorau.

Hanes y dyn wnaeth greu'r bom atomig yw cynnwys y ffilm Oppenheimer. 

Fe ddaeth yr  actor Gwyddelig Cillian Murphy i'r brig yn y categori actor gorau am ei rôl yn chwarae J Robert Oppenheimer yn y ffilm. 

Cafodd Robert Downey Jr hefyd ei wobrwyo am ei rôl fel Lewis Strauss yn y ffilm.

Cyflwynwyd y wobr am y ffilm orau, tlws olaf y noson, gan yr actor 83 oed, Al Pacino. Fe gyhoeddodd o'r enillydd yn wahanol i'r arfer heb y ffanffer arferol.

Edrychodd ar y cerdyn a dweud, "Rwy'n gweld yr enw Oppenheimer."

Emma Stone ddaeth i'r brig yn y categori actores orau ar gyfer y comedi swreal Poor Things.  

Da’Vine Joy Randolph gafodd y wobr actores gynorthwyol orau am ei rôl yn y ffilm The Holdovers.

Dim ond un wobr gafodd y ffilm boblogaidd Barbie sef y gân wreiddiol orau ar gyfer What Was I Made For? gan Billie Eilish a’i brawd Finneas O’Connell.

Llun: Wovhit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.