Oscars 2024: Pwy sydd wedi eu henwebu?
Fe fydd seremoni fawreddog yr Oscars yn cael ei chynnal nos Sul, ond pwy sy'n debygol o ennill?
Y ffilm Oppenheimer sydd yn arwain yr enwebiadau ar gyfer y gwobrau, gyda chyfanswm o 13 o enwebiadau, sy'n cynnwys y Ffilm Orau a'r Actor Gorau, sef Cilian Murphy.
Roedd hyn un yn brin o'r record am ffilm â'r nifer fwyaf o enwebiadau erioed.
Mae'r actores Carey Mulligan - sydd â chysylltiad teuluol â Sir Gaerfyrddin drwy ei mam, sydd yn dod o Landeilo - wedi derbyn enwebiad am yr Actores Orau am ei rôl yn y ffilm Maestro.
Fe fydd nifer yn gobeithio y bydd Barbie yn fuddugol hefyd, wedi i'r ffilm dderbyn wyth o enwebiadau.
Yn syndod i sawl un, ni chafodd prif actores Barbie, Margot Robbie, na chyfarwyddwraig y ffilm, Greta Gerwig, eu henwebu.
Y cyflwynydd teledu Jimmy Kimmel fydd yn cyflwyno'r gwobrau a fydd yn cael eu cynnal yn Los Angeles nos Sul.
Mae'r ffilm Poor Things wedi derbyn cyfanswm o 11 enwebiad, tra bod Maestro, sy'n cynnwys yr actor Bradley Cooper, wedi derbyn o saith o enwebiadau.