Cyhoeddi'r llun cyntaf o'r Dywysoges Catherine ers iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen
Mae'r llun cyntaf o'r Dywysoges Catherine wedi cael ei ryddhau ers iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen ym mis Ionawr.
Fe gafodd y llun o Dywysoges Cymru gyda'i phlant ei dynnu gan y Tywysog William yn Windsor yn gynharach yn yr wythnos.
Cafodd ei gyhoeddi ddydd Sul i nodi Sul y Mamau.
Inline Tweet: https://twitter.com/KensingtonRoyal/status/1766750995445387393?s=20
Yn y neges, dywedodd y Dywysoges: "Diolch am eich dymuniadau da a'ch cefnogaeth barhaus dros y ddau fis diwethaf.
"Gan ddymuno Sul y Mamau Hapus i bawb."
Dywedodd llefarydd ar ran Palas Kensington ym mis Ionawr na fyddai'r Dywysoges yn dychwelyd i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus tan ar ôl y Pasg.