Newyddion S4C

Charlotte Church ymysg miloedd yn Llundain i orymdeithio o blaid Palesteina

09/03/2024
Charlotte Church

Mae'r gantores o Gymru Charlotte Church ymysg miloedd sy'n gorymdeithio mewn protest o blaid Palesteina yn Llundain ddydd Sadwrn.

Fe gafodd yr orymdaith ei threfnu gan Ymgyrch Solidariaeth Palesteina (PRS), gan gychwyn yn Hyde Park a gorffen o flaen Llysgenhadaeth yr UDA. 

Dywedodd Ms Church ei bod wedi ymuno yn y brotest er mwyn "dangos solidariaeth gyda phobl Palesteina am eu holl ddioddefaint.

"Dwi yma heddiw i alw am gadoediad ar unwaith, i ofyn i'n Llywodraeth a'r llywodraethau ar draws y byd i anfon neges mor gryf â phosibl. 

"Rydym ni gyd yma oherwydd na fedrwn ni dioddef yr hyn yr ydym ni'n ei weld. Mae'n erchyll gweld sifiliaid, plant a merched yn cael eu lladd. 

"A felly rydym ni yma oherwydd bod ein calonnau ni yn llawn cariad tuag at bobl Palesteina."

Mae presenoldeb mawr yr heddlu yn y ddinas wrth i'r brotest wneud ei ffordd trwy ganol Llundain.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.