Newyddion S4C

Bwrdd iechyd yn y de yn ymddiheuro am ail achos o ryddhau corff anghywir i deulu

09/03/2024
Ysbyty Athrofaol y Faenor

Mae bwrdd iechyd yn ne Cymru wedi ymddiheuro i deulu wedi iddynt ryddhau'r corff anghywir i deulu yn sgil camgymeriad gan ysbyty.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan eu bod wedi "eu llorio" gan y camgymeriad yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor, Cwmbrân.

Ni chafodd y teulu eu hysbysu am rai misoedd ar ôl y farwolaeth, a'r gred yw bod angladd eisoes wedi cael ei gynnal.

Digwyddodd y camgymeriad ym mis Tachwedd 2023, cyn digwyddiad tebyg ym mis Rhagfyr 2023.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Rydyn ni wir wedi ein llorio dros y teulu oedd yn rhan o'r digwyddiad hwn ac mae'n ddrwg iawn gennym fod hyn wedi digwydd yn ein marwdy.

"Mae'n destun gofid mawr fod y digwyddiad hwn wedi digwydd o fewn dyddiau cyn digwyddiad tebyg a adroddwyd eisoes a'i fod oherwydd yr un camgymeriad dynol."

Ychwanegodd y bwrdd iechyd fod eu hymchwiliad cychwynnol wedi ei gwblhau ac fe fydd ymchwiliad pellach yn cael ei gynnal i'r amgylchiadau yn ymwneud â'r ail ddigwyddiad mewn amgylchiadau tebyg.

Yn ôl y bwrdd, maent wedi cymryd "camau priodol ers mis Tachwedd yn y marwdy ac wedi rhoi mwy o fesurau diogelu ar waith oherwydd yr ail achos hwn."

Ychwanegodd y bwrdd: "Rydym wedi cwrdd â'r teulu i roi gwybod iddynt yn llawn am y sefyllfa hon ac i gynnig cymaint o gefnogaeth ag sydd ei angen arnynt. Rydym wedi cael gwybod nad oes unrhyw deulu hysbys o'r claf arall a dyma'r rheswm pam y bu oedi yn yr achos hwn yn cael ei nodi. 

"Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r teulu drwy gydol ein hymchwiliad parhaus."

Fe gafodd Ysbyty Athrofaol y Faenor ei agor ym mis Tachwedd 2020, ac mae'n cynnig adran achosion brys a gofal uned dwys i bobl yn byw yng Ngwent a de Powys.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.