Newyddion S4C

O'r Cae Ras i Galiffornia: Wrecsam i wynebu Chelsea yn yr haf

08/03/2024
Paul Mullin yn herio amddiffyn Chelsea yn haf 2023

Bydd Wrecsam yn herio Chelsea mewn gêm gyfeillgar yng Nghaliffornia yn yr haf.

Fe fydd y clwb yn herio'r tîm yn Uwch Gynghrair Lloegr yn Stadiwm Levi's® yn Santa Clara.

Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar 24 Gorffennaf, a bydd Wrecsam yn herio dau dîm arall ar eu taith i'r Unol Daleithiau.

Fe all cefnogwyr gofrestru ar gyfer tocynnau am 17:00 ar 11 Mawrth, gyda thocynnau yn mynd ar werth i'r cyhoedd am 17:00 13 Mawrth.

'Cyffrous a chofiadwy'

Dywedodd rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson ei fod yn edrych ymlaen at gwrdd â chefnogwyr y clwb ar bendraw'r byd.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’r Unol Daleithiau ar gyfer ein taith haf, ac mae’r gêm yn Stadiwm Levi’s yn erbyn Chelsea yn argoeli i fod yn achlysur cyffrous a chofiadwy – yn ogystal â bod yn rhan bwysig  ar gyfer paratoadau cyn y tymor," meddai.

“Roedd yn fraint fawr cwrdd â chefnogwyr yn yr Unol Daleithiau yr haf diwethaf, ac rydyn ni’n gyffrous i weld mwy o’n cefnogwyr brwd yn San Francisco ym mis Gorffennaf.”

Roedd y Dreigiau wedi teithio i'r Unol Daleithiau yn yr haf y llynedd i baratoi ar gyfer eu hymgyrch yn Adran Dau Lloegr, ar ôl ennill dyrchafiad o’r Gynghrair Genedlaethol.

Yno roeddynt wedi herio Chelsea mewn gêm gyfeillgar yn eu gêm gyntaf o'r daith, yn Stadiwm Kenan yng Ngogledd Carolina.

Roedden nhw hefyd wedi wynebu Manchester United, LA Galaxy II a Philadelphia Union II ar y daith.

Llun: Wochit
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.