Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru i dalu am waith atgyweirio RAAC mewn ysgolion

11/03/2024
Ysgol Syr David Hughes a Jeremy Miles

Mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn talu am holl waith atgyweirio RAAC mewn ysgolion yng Nghymru.

Bydd y pecyn cyllido yn cynnwys £2.56m i dalu am gostau'r gwaith adfer, meddai'r llywodraeth.

Bydd £10m arall ar gael ar gyfer gwaith cynnal a chadw "ar raddfa fawr" i ganolbwyntio ar fesurau arbed ynni. Mae hyn yn cynnwys ailosod toeau, ffenestri, gwaith gwresogi ac awyru a systemau trydanol.

Pum' ysgol yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan RAAC, sef Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi ar Ynys Môn; Ysgol Maes Owen yng Nghonwy; Ysgol Trefnant yn Sir Ddinbych ac Ysgol Gynradd Eveswell yng Nghasnewydd.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles ei fod eisiau sicrhau bod gan bob disgybl y cyfle i weithio mewn amgylchedd addas.

"Mae'r ffaith bod cyn lleied o achosion o RAAC wedi'u canfod yn ein hystâd addysg yn dyst i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn ysgolion dros nifer o flynyddoedd, trwy ein Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac yn ehangach," meddai.

"Rwy' am sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cyflawni ei botensial, a bod eu haddysg yn cael ei darparu mewn amgylcheddau sy'n addas i'r diben. 

"Bydd y pecyn cyllido cyfalaf rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn galluogi awdurdodau lleol a cholegau i wneud gwaith cynnal a chadw i sicrhau bod yr ystâd addysg yng Nghymru yn ddiogel ac yn effeithlon."

'Misoedd anodd'

Mae awdurdodau lleol sydd ag ysgolion sydd wedi'u heffeithio gan RAAC wedi croesawu'r cyllid o £2.56m i dalu am y costau adfer.

Dywedodd Arweinydd Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi bod y misoedd diwethaf wedi bod yn anodd wrth i ysgolion ar yr ynys orfod cau am gyfnodau.

“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cyllid yma sydd wir ei angen ac am y gefnogaeth ragweithiol gafwyd wrth i ni ymateb i’r argyfwng RAAC," meddai.

“Mae’r misoedd diwethaf yma wedi bod yn anodd iawn i’r ysgolion sydd wedi eu heffeithio – Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Mae gwaith trwsio sylweddol eisoes wedi’i wneud er mwyn sicrhau bod y ddwy ysgol wedi gallu croesawu disgyblion yn ôl i’w hadeiladau ar gyfer addysg wyneb yn wyneb."

Dywedodd bod mwy o waith i wneud ac y bydd yr arian yn golygu na fydd yn rhaid i'r cyngor orfod defnyddio arian wrth gefn ei hunain. 

Cafodd planciau concrit RAAC hefyd eu darganfod yn Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro fis Awst, gyda chwe ward yn cau dros dro.

Fe gafodd tri o’r wardiau eu hail-agor fis Rhagfyr, wrth i’r gwaith adfer barhau yng ngweddill y wardiau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.