Newyddion S4C

Pryder am 'gamddefnydd eang' o fathodynnau anabl glas

09/03/2024
Bathodyn glas anabl

Mae “camddefnydd eang” o fathodynnau glas yn achosi pryder i Lywodraeth Cymru, sydd wedi gyrru ebyst at bob cyngor yng Nghymru yn eu rhybuddio am "ddefnydd amhriodol."

Yn ogystal, mae sôn am fasnach y farchnad ddu lle mae nifer o bobl yn prynu trwyddedau parcio i’r anabl.

Mae'r llywodraeth wedi ysgrifennu at gynghorau oherwydd eu pryderon am "ddefnydd amhriodol" o'r trwyddedau sy'n cael eu darparu am ddim yng Nghymru.

Cafodd aelodau pwyllgor craffu cymunedau glanach Cyngor Bwrdeistref Torfaen y newyddion diweddaraf am orfodi parcio yn eu cyfarfod ym mis Mawrth, pan glywsant am bryderon y llywodraeth.

Dywedodd Gavin Newman, arweinydd tîm priffyrdd, traffig a gorfodi’r cyngor bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno gweithdai i ddelio gyda'r camddefnydd.

“Rwyf wedi derbyn e-bost gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â gorfodi’r bathodyn glas. 

"Mae’n debyg bod camddefnydd eithaf eang o fathodynnau glas yng Nghymru a bydd y llywodraeth yn cyflwyno rhai gweithdai ar yr hyn y gallwn ni fel awdurdodau lleol ei wneud ynglŷn â’r camddefnydd hwnnw.”

Dywedodd Mr Newman y byddai'r cyngor yn mynychu un o'r gweithdai.

Croesawu'r camau

Dywedodd cynghorydd Llafur Abersychan, Lynda Clarkson, ei bod yn croesawu’r ffaith bod camau’n cael eu cymryd, gan ddweud "mae’n debyg bod bathodynnau glas ar werth.”

Ychwanegodd cadeirydd y pwyllgor, aelod Llafur Llanyrafon David Williams: “Rwy’n credu bod yna fasnach ynddyn nhw.”

Roedd y Cynghorydd Clarkson wedi gofyn sut mae'r cyngor yn gorfodi camddefnyddio mannau parcio i'r anabl. 

“Mae’n gorfodi pobl sydd ag anableddau gwirioneddol i ddefnyddio eu Bathodynnau Glas lle mae parcio cyfyngedig ac mae rhai wedi dweud eu bod wedi cael tocynnau ar gyfer hyn," meddai.

Atebodd Mr Newman: "Mae pedwar swyddog gorfodi parcio’r cyngor yn rhoi hysbysiadau tâl cosb os ydyn nhw’n sylwi ar gerbydau wedi’u parcio mewn cilfachau a mannau parcio i’r anabl os nad ydyn nhw’n arddangos bathodyn glas yn gywir.

“Byddant yn ceisio siarad â deiliaid bathodynnau glas os ydynt mewn ardal na ddylent fod, neu os na chaniateir iddynt ddefnyddio’r ardal honno."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.