Newyddion S4C

Ymwelwyr â'r goedwig ac Ynys Llanddwyn yn creu cur pen i drigolion Niwbwrch ar Ynys Môn

08/03/2024

Ymwelwyr â'r goedwig ac Ynys Llanddwyn yn creu cur pen i drigolion Niwbwrch ar Ynys Môn

Mae Ynys Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn gyda chysylltiadau chwedlonol a golygfeydd trawiadol yn yr ardal. Ydy, mae'n boblogaidd a hynny yn ei dro yn achosi traffig trwm a'r holl broblemau sydd yn dod law yn llaw a hynny.

"Gridlock. Fedrith neb fynd i unlle. Methu mynd i'w gwaith achos methu gadael eu tai. Mae'r Pasg yn dwad a bydd rhai o'r bobl lleol ddim eisiau mynd o adre achos mae'n job dod yn ôl."

"Dros y gwyliau, mae'n mayhem. Fedrith neb symud, sefyll fan'ma am hanner awr yn disgwyl mynd trwadd. Nature Reserve ydy o ond mae'r NRW eisiau troi o'n theme park. Mae pob math o bethau yn mynd ymlaen yna. Maen nhw'n creu lot o bobl i ddod yma.

"Y Sandman ym Mis Medi. Fedrwch chi ddim symud ar y sgwâr."

Mewn ymateb dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei bod, fel rhan o'i hymgyrch i hyrwyddo ymweliadau cyfrifol yn annog pobl i ystyried lleoliadau tawelach. A'i bod hefyd yn ymatal rhag defnyddio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch y goedwig neu Ynys Llanddwyn i farchnata deunyddiau cymaint â phosib.

Dim ond un lôn gul sydd yn arwain i'r traeth o bentref Niwbwrch sydd yn achosi tagfeydd ofnadwy yn ôl rhai ar adegau prysura'r flwyddyn. Rwan mae 'na alw i ddatrys y broblem a hynny ar frys.

Dyna fwriad y digwyddiad cyhoeddus sydd yn cael ei gynnal gan nifer o bartneriaid yn y pentref.

"Mae'r sefyllfa yn annerbyniol i'r gymuned. Yn ystod cyfnodau o'r haf mae'n amhosib i bobl symud o fewn pentrefi eu hunain, cartref eu hunain a gwneud y pethau dydd-i-ddydd 'dan ni wedi arfer ei wneud.

"Dyna pam mae digwyddiad wythnos yma lle mae'r partneriaid i gyd yn dod at y bwrdd efo'r gymuned i drio dod i fyny hefo datrysiad oherwydd bod rhaid i rywbeth gael ei wneud i'r ardal yna."

Bydd gwyliau'r Pasg a'r haf yr un mor brysur i Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn wrth i filoedd dyrru i'r ardal, ond gobeithion pobl yn fan hyn ydy y bydd yr ymgynghoriad yn arwain at newidiadau er gwell i'r dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.