Newyddion S4C

‘Disgwyl newidiadau’ wrth i’r ymgynghoriad ar ddyfodol ffermio yng Nghymru ddod i ben

08/03/2024
Lesley Griffiths

Mae gweinidog amaeth Cymru wedi dweud ei bod hi’n “disgwyl newidiadau” i gynllun ffermio ei llywodraeth wrth i ymgynghoriad gau.

Ar hyn o bryd, mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn disgwyl i ffermwyr blannu coed ar 10% o’u tir a neilltuo 10% arall ar gyfer cynefinoedd.

Mae nifer fawr o ffermwyr a gwleidyddion y gwrthbleidiau yn dadlau nad yw'r gofyniad hwn yn ymarferol.

Dywedodd NFU Cymru bod 6,700 o ffermwyr wedi ymateb i'r ymgynghoriad drwy eu gwefan a'i fod wedi achosi "straen a phryder" i'w haelodau.

Daeth yr ymgynghoriad ar y cynllun i ben am hanner nos wedi protestiadau ar draws Cymru, gan gynnwys 5,000 o ffermwyr ar risiau'r Senedd yr wythnos diwethaf.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ei bod yn "ddiolchgar" i bawb "sydd wedi rhoi o'u hamser i ymateb i'r ymgynghoriad".

“Rwyf wedi nodi'n glir fy mod yn disgwyl i newidiadau gael eu gwneud i'r cynigion o ganlyniad i'r ymgynghoriad fel y gallwn gefnogi yn y ffordd orau bosibl y broses o newid i ffermio mwy cynaliadwy yng Nghymru, yn unol â’n hamgylchiadau presennol,” meddai.

“Ni fydd unrhyw benderfyniad ar unrhyw elfen o'r cynnig, gan gynnwys sut rydym yn cyflawni'r gofyniad am gynefinoedd a choed, yn cael ei wneud nes ein bod wedi cynnal dadansoddiad llawn o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones bod "ymateb digynsail" i'r ymgynhoriad oedd yn dangos "cryfder teimlad aruthrol ein haelodau".

"Mae'n dangos yn glir bod angen ailwampio’r cynigion presennol yn sylweddol. 

"Rhaid i’r cynigion symud y tu hwnt i gynllun sy’n canolbwyntio’n bennaf ar gyflawni canlyniadau amgylcheddol ac yn lle hynny ddod yn bolisi amaethyddol gwirioneddol sy’n sail i gynhyrchu bwyd, a busnesau amaethyddol a chymunedau gwledig gwydn.

"Rhaid i hynny ddatblygu ochr yn ochr â’n rhwymedigaethau a’n huchelgeisiau amgylcheddol ac mewn cytgord â nhw."

'Dadansoddi'

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi camau i leddfu'r ymateb gan y sector amaeth gan gynnwys:

  • Penodi Grŵp Cynghori Technegol TB Gwartheg er mwyn edrych ar y polisi difa ar y fferm a rhoi cyngor i weinidogion.
  • Trefnu arolwg statudol effeithiolrwydd y rheoliadau llyfred amaethyddol sydd wedi bod yn cael eu rhoi ar waith dros gyfnod o bedair blynedd.
  • Ystyried adolygiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth o unrhyw gynigion pellach a gwahanol yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer dal carbon.

Dywedodd Lesley Griffiths y bydd ymateb llawnach i’r ymgynghoriad erbyn diwedd mis Mai.

“"Bydd pob ymateb i'r ymgynghoriad a ddaw i law, gan gynnwys yr holl faterion gafodd eu codi a'u trafod yn 10 Sioe Deithiol Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod ymgynghori, yn cael eu dadansoddi a'u hystyried yn briodol,” meddai.

“Byddwn yn cyhoeddi'r dadansoddiad hwnnw a chrynodeb o'r ymatebion yn nes ymlaen yn y Gwanwyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.