Newyddion S4C

Yr Arlywydd Biden: Rhyddid a democratiaeth yn yr UDA a thramor 'dan ymosodiad'

08/03/2024
Joe Biden.png

Mae'r Arlywydd Biden wedi dweud bod rhyddid a democratiaeth "o dan ymosodiad" yn yr UDA a thramor yn un o areithiau pwysicaf ei arlywyddiaeth ddydd Iau.

Wrth gyflwyno ei araith Cyflwr y Genedl, defnyddiodd Mr Biden, 81,  y term "rhagflaenydd" yn unig wrth gyfeirio at Donald Trump 13 gwaith yn ei araith.

Fe wnaeth Mr Biden gondemnio sylw diweddar Mr Trump am Rwsia, wedi iddo ddweud y byddai'n gwahodd Moscow i ymosod ar aelodau NATO am beidio â chynyddu gwariant amddiffyn. 

Aeth ymlaen i drafod yr ymosodiad ar adeilad y Capitol yn Washington gan gefnogwyr Mr Trump ar 6 Ionawr 2021, gan eu cyhuddo o beidio â bod yn "wladgarwyr".

Ychwanegodd bod angen brwydro yn erbyn y bygythiad i ddemocratiaeth yn y wlad, gan ddweud mai bwriad Mr Trump a rhai aelodau eraill yn y siambr oedd i "guddio'r gwir".

Wrth gyfeirio at Mr Trump, sydd yn 77 oed, dywedodd Mr Biden: "Efallai bod rhai eraill sydd yr un oed â fi yn gweld stori wahanol: stori Americanaidd o ddrwgdeimlad a dial. Nid dyna fy stori i."

Fe wnaeth Mr Biden hefyd gadarnhau y byddai UDA yn sefydlu porthladd dros dro ar yr arfordir yn Gaza i gynyddu'r cymorth dyngarol i fewn i'r rhanbarth, gan ddisgrifio canlyniadau'r rhyfel fel rhai "torcalonnus."

Roedd mewnfudo, erthyliad a'r economi yn bynciau llosg wrth i'r etholiad a fydd yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd nesáu.

Roedd Mr Trump wedi addo ymateb yn fyw i araith ei wrthwynebydd ar y cyfryngau cymdeithasol, a dywedodd fod "Biden yn ceisio ffoi o'i record gan ddweud clwyddau hurt i geisio osgoi atebolrwydd am y dinistr erchyll y mae ef a'i blaid wedi ei greu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.