
Oriel luniau: Y gwasanaeth tân yn achub Teifi y merlyn Shetland o grid gwartheg
Cafodd criwiau tân eu galw i achub merlyn Shetland 21 oed aeth yn sownd mewn grid gwartheg ym Mhowys.
Cafodd gwasanaeth tân ac achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i Langatwg ddydd Mawrth ar ôl i Teifi gael ei ddal yn y grid.
Cafodd criwiau Crucywel, Talgarth a Phontardawe eu galw i'r lleoliad ac roedd angen cymorth milfeddyg arnynt ac offer arbenigol i'w achub.
Er mwyn atal Teifi rhag gofidio gormod, tawelodd y milfeddyg ef ac aeth y criwiau ymlaen i ddefnyddio offer sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwrthdrawiadau ar y ffyrdd i’w ryddhau.
Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd perchennog Teifi, Beth Watkins: “Rwy’n hynod ddiolchgar i griwiau’r Gwasanaeth Tân ac Achub am eu cymorth i achub Teifi.
“Fe wnaethon nhw gynllunio yn ofalus iawn a dangos gofal mawr tuag ato trwy gydol y digwyddiad.
“Rwy’n falch o ddweud bod Teifi yn gwella ac mae wedi dod yn eithaf enwog yn lleol ers hynny.”




Dywedodd y gwasanaeth tân bod Teifi wedi mynd i drafferthion oherwydd na chafodd giatiau eu cau gan gerddwyr diofal.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth: “Fe lwyddodd Teifi i gyrraedd y grid gwartheg oherwydd bod giât yn cael ei gadael ar agor gan gerddwyr drwy’r fferm y mae’n byw arni.
“Mae’r Cod Cefn Gwlad yn annog pawb sy’n defnyddio cefn gwlad, yr arfordir, parciau a dyfrffyrdd i adael gatiau ac eiddo fel y’u darganfuwyd ac i ddilyn cyfarwyddiadau ar arwyddion.”



