Newyddion S4C

Arlunydd o Wrecsam yn galw am lwybr treftadaeth o furluniau yn y ddinas

ITV Cymru 07/03/2024

Arlunydd o Wrecsam yn galw am lwybr treftadaeth o furluniau yn y ddinas

Mae arlunydd o Wrecsam eisiau gweld llwybr treftadaeth o furluniau drwy’r ddinas er budd pobl leol a thwristiaid. 

Yn ôl Liam Stokes-Massey, sydd hefyd yn cael ei adnabod yn lleol fel y Pencil Craftsman, mae gan y ddinas gyfle perffaith i arddangos ei hanes. 

“Mae yna gymaint o artistiaid galluog yn y ddinas, a dydi nhw i gyd ddim yn mynd i fod yn gwneud stwff ar bêl droed, felly mae o’n gyfle i gael gwaith syfrdanol ar waliau.

“Mi fydda fo’n anhygoel i weld gwaith artistiaid yn cael ei ddefnyddio i fywiogi’r lle”

Mae Liam wedi denu poblogrwydd drwy ei furluniau o bêl-droedwyr Clwb Pêl-Droed Wrecsam sydd o gwmpas y ddinas.

Er bod Liam wedi bod yn braslunio a phaentio cynfasau o wahanol bêl-droedwyr ers 10 mlynedd, mae wedi profi llwyddiant wrth ddarlunio chwaraewyr CPD Wrecsam a tîm cenedlaethol Cymru. 

“Mi ddaru fo wir chwythu fyny yn ystod Ewro 2016 ar ôl i mi fraslunio Gareth Bale yn gwneud ei ddathliad enwog siap calon.”

Wrth sôn am pam yr oedd yn credu bod ei brintiau digidol wedi dod mor boblogaidd, dywedodd Liam fod “pêl droed yn fynedfa” i lawer o bobl i fewn i gelf oherwydd ei fod “yn rhywbeth mae pobl yn gallu ymwneud a chysylltu ag o.”

Murluniau 

Dywedodd Liam bod ei gariad at furluniau wedi cychwyn ar ôl ymweld â llefydd fel Lerpwl sydd â darluniau mawr o bêl droedwyr y gorffennol a’r presennol. 

“Mi oedd o’n anhygoel. Meddylais, os mae trefi a dinasoedd fel Lerpwl yn gallu cael nhw, pam ddim Wrecsam?”

Paentiodd ei furlun cyntaf ar y wal tu allan i’r Fat Boar yng nghanol Wrecsam cyn Cwpan y Byd 2022. Roedd y murlun yn cynnwys Gareth Bale, ynghyd ag arwyr lleol, Neco Williams a Harry Wilson. 

Ers hynny, mae wedi creu murluniau a phrintiau o bêl-droedwyr fel Paul Mullin, Ethan Ampadu a Kieffer Moore. Roedd hefyd yn gyfrifol am greu siart wal Cwpan y Byd gafodd ei brynu gan fam Gareth Bale i’w arddangos yn ei dŷ yn Los Angeles. 

Image
Murlun Paul Mullin
Murlun Paul Mullin tu allan i’r Fat Boar, Wrecsam. Llun: ITV Cymru

Yn ddiweddar, mae Liam wedi cwblhau murlun o reolwr Wrecsam, Phil Parkinson, neu ‘Parky’, tu allan i dafarn The Turf ger y Cae Râs.

“Dwi bob amser yn rhagweld murluniau a sut rwyf eisiau iddyn nhw edrych. Am y rheswm yna, mae rhaid i mi ddweud mai un ‘Parky’ ydi fy hoff un gan ei fod mor debyg i’r dyn go-iawn - mae’n brin iawn fy mod yn dweud hyn, ond dw i’n 100% hapus efo fo.”

Gan bod y murlun wedi cymryd wythnos i’w gwblhau, tra’n gweithio roedd Liam yn cyfarfod nifer o bobl o gwmpas yn ymweld efo Wrecsam, yn cynnwys 4 cefnogwyr Wrecsam o Batagonia. 

“Uchafbwynt yr wythnos i mi oedd cyfarfod pobl o Batagonia. Dwi wastad wedi bod eisiau mynd yno i gyfarfod pobl efo llinach o Gymru ac i siarad yn Gymraeg efo nhw.”

“Mi oeddwn yn paentio tra roedd o’n mynd ymlaen a dwi’n meddwl bod cwpl ohonynt wedi bod yn ffrindiau ar-lein am flynyddoedd heb gyfarfod felly hwn oedd y tro cyntaf iddyn nhw gyfarfod, felly mi roedd yna lot emosiwn ac mi roedd yn brofiad bythgofiadwy.”

Llun: ITV Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.