Newyddion S4C

Carcharu dyn am werthu cyffuriau mewn gŵyl ar Ynys Môn

06/03/2024
Osian Rhys Williams

Mae dyn o’r Felinheli fu’n gwerthu cyffuriau mewn gŵyl ar Ynys Môn a chlwb nos ym Mangor wedi cael ei garcharu.

Cafodd Osian Rhys Williams, 24 oed, ei weld yn gwerthu cyffuriau yng ngŵyl gerddoriaeth Gottwood ar Ynys Môn ar 19 Mehefin 2022. 

Pan gafodd ei archwilio, roedd ganddo gwerth £1,100 o gocên, cetamin, LSD ac ecstasi.

Cafodd Williams hefyd ei garcharu am werthu cyffuriau yng nghlwb nos Cube ym Mangor ar 29 Mai 2023. Adeg hynny, roedd ganddo gwerth £550 o gocên, cetamin a LSD, a £188 mewn arian parod.

Cafodd ei garcharu am dair blynedd ac wyth mis.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jamie Atkinson: “Mae’r rhai sy’n mentro i fyd troseddu yn gorfod wynebu'r risg o'r  canlyniadau.

“Byddwn yn parhau i fynd ar ôl unrhyw un sy’n ceisio dod â chyffuriau i Wynedd ac Ynys Môn, ac sy’n cymryd mantais o aelodau bregus o’r gymuned er lles hunanol eu hunain.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.