Newyddion S4C

Croeso i'r newyddion bod Llywodraeth y DU yn prynu safle Wylfa ar Ynys Môn

06/03/2024

Croeso i'r newyddion bod Llywodraeth y DU yn prynu safle Wylfa ar Ynys Môn

Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i brynu safle Wylfa wedi cael croeso gan Gyngor Ynys Môn.

Gwnaeth y Canghellor Jeremy Hunt y cyhoeddiad yn ystod y Gyllideb yn Nhy'r Cyffredin, 

Bydd y llywodraeth yn prynu safle y Wylfa a safle Oldbury yn ne Swydd Gaerloyw gan gwmni Hitachi am £160m.

Mae Wylfa a Thrawsfynydd ymysg nifer o leoliadau sydd â'r posibilrwydd o fod yn gartref i brosiectau niwclear newydd i'r dyfodol.

Rhoddodd cwmni Hitachi y gorau i gynllun i godi atomfa newydd yn Wylfa yn 2021 oherwydd pryderon ariannol a chostau cynyddol.

“Mae gan Ynys Môn rôl hanfodol wrth gyflawni ein huchelgeisiau niwclear," meddai Jeremy Hunt.

Nid yw’r cyhoeddiad yn golygu y bydd gorsaf niwclear o rewidrwydd yn cael ei hadeiladu ar yr ynys, ond mae'n debygol o wneud y safle'n un fwy deniadol i fuddsoddwyr yn y dyfodol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, “Gyda safle’r Wylfa yn dod yn ôl o dan reolaeth uniongyrchol y DU, gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at ymrwymiad clir o ran pryd y bydd datblygiad yn digwydd. Mae cymunedau’r ynys, yn enwedig rhai’r gogledd, angen cadarnhad ac eglurder.

"Rydym yn cydnabod fod gan y datblygiad hwn y potensial i newid cymunedau gogledd Ynys Môn a thu hwnt drwy ddarparu swyddi hirdymor o safon uchel sydd wir eu hangen ynghyd â chyfleoedd cadwyn gyflenwi.  Fodd bynnag, nid yw ein cefnogaeth yn un y dylid ei gymryd yn ganiataol a rhaid i unrhyw ddatblygiad barchu’n llawn a datblygu teimlad yr ynys o le sy’n cynnwys ei amgylchedd, diwylliant a’r iaith Gymraeg.”

Dywedodd Ysgrifenydd Cymru, David T C Davies: "Mae prynu  Wylfa fel safle ar gyfer datblygiad niwclear newydd yn newyddion gwych i Ynys Môn ac economi Cymru yn gyffredinol."

Ond ar ran y Blaid Lafur, mae Jo Stevens, Ysgrifenydd Cymru'r wrthblaid, wedi mynegi amheuon am ddiffyg amserlen neu gynllun ar gyfer y safle.

"Mae'n bum mlynedd bellach ers i weinidogion wylio'r cynllun Wylfa diwethaf  yn chwalu,"meddai.

"Byddai 50% o'r cynllun yna wedi ei gwblhau erbyn hyn, a bydden ni'n gweld y budd o filoedd o swyddi adeiladu."

Cyhoeddodd Mr Hunt hefyd bod Llywodraeth y DU yn bwriadu buddsoddi er mwyn cefnogi ail-ddatblygu Theatr Clwyd.

Roedd yna £170m yn fwy o arian i Lywodraeth Cymru mewn symiau canlyniadol Barnett o ganlyniad i'r Gyllideb, meddai'r Canghellor.

'Cyfnod heriol'

Cadarnhaodd y Canghellor Jeremy Hunt doriad Yswiriant Gwladol pellach o 2c, o 10% i 8% o 6 Ebrill.

Bydd Yswiriant Gwladol yr hunangyflogedig hefyd yn cael ei dorri o 8% i 6%.

Cadarnhaodd hefyd y byddai yn cael gwared ar y system dreth ar gyfer pobl sydd ddim yn byw yn y Deyrnas Unedig, sy’n golygu ar hyn o bryd bod modd peidio talu trethi yn y DU ar arian sy’n cael ei ennill dramor.

Fe fydd yn cael ei ddisodli gan system decach, meddai. 

Dywedodd Jeremy Hunt ei fod hefyd am rewi y dreth ar danwydd am 12 mis arall. Roedd hefyd wedi yn ymestyn ei benderfyniad i rewi treth ar alcohol nes mis Chwefror 2025.

Dywedodd ei bod yn Gyllideb ar gyfer “twf yn y dyfodol” a'u bod nhw’n helpu teuluoedd “nid yn unig gyda chymorth costau byw dros dro ond gyda thoriadau parhaol yn eu trethi”.

“Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn rhoi help llaw i’r rheini sydd ei angen mewn cyfnod heriol,” meddai.

“Ond hefyd oherwydd bod y Ceidwadwyr yn gwybod bod trethi is yn golygu twf uwch.

“Ac mae twf uwch yn golygu mwy o gyfle, mwy o ffyniant economaidd a mwy o gyllid ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr.”

Ychwanegodd fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhagweld y bydd chwyddiant yn syrthio’n is na 2% mewn deufis.

'Suddo'

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid, Keir Starmer bod Jeremy Hunt yn ymdebygu i gapten y Titanic, ac yn "twyllo ei hun".

"Mae'r Canghellor yn dweud wrth bobl y wlad fod popeth yn mynd yn ôl ei gynllun ynghanol dirwasgiad," meddai.

"Fel y byddai capten y Titanic wedi dweud - mynydd iâ? Pa fynydd iâ?

"Mae'n gwenu wrth i'r llong suddo."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.