Modd i'r cynllun amaeth weithio medd ffermwr ond angen newidiadau
Modd i'r cynllun amaeth weithio medd ffermwr ond angen newidiadau
Fe allai cynllun amaeth Llywodraeth Cymru weithio os yw gweinidogion yn fodlon gwneud newidiadau i leddfu pryderon amaethwyr, yn ôl un ffermwr.
Yn ôl Rhys Evans, ffermwr o ardal Dolgellau mae egwyddor cynlluniau’r llywodraeth yn ddealladwy ond mae'n dweud fod y polisi fel ag y mae “yn ddiog” ac nad yw’n ystyried y gwahaniaethau sylweddol sydd ar ffermydd Cymru.
Mae’r cynllun sy’n cynnwys gofyn i amaethwyr blannu 10% o’u tir yn goed wedi arwain at brotestio ffyrnig ar draws y sector.
Gyda’r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ddydd Iau mae’r Llywodraeth yn annog unrhyw un sydd awydd lleisio barn i wneud hynny.
Yn ffermio defaid a gwartheg mae Mr Evans hefyd yn Rheolwr Rhwydwaith Ffermio Lles Natur Cymru ac yn dweud bod yn rhaid i gyllideb a thaliadau i ffermwyr gynyddu os ydi polisi tebyg wir am wneud gwahaniaeth.
“Wrth gwrs mae lot o ansicrwydd yn sgil hyn ond mae’n bosib gwneud y ddau beth yna drwy gynhyrchu bwyd hefyd”, meddai.
“Integreiddio coed a chynefinoedd o fewn y system fwyd ond mae’n rhaid inni blannu y goeden iawn yn y lle iawn”.
“Mae polisi y llywodraeth fel ag y mae yn reit ddiog a dydi’r polisi ddim yn cydnabod bod pob fferm yn wahanol”
Mae Mr Evans sy’n ffermio yn Rhydymain hefyd yn dweud bod yn rhaid i daliadau a chyllid i ffermwyr gynyddu er mwyn adlewyrchu mawredd y gwaith a chymorth sydd ei angen.
Ar ei fferm Hywel Dda, mae cynlluniau eisoes ar waith sy’n enghraifft o sut mae modd integreiddio rhai o gynlluniau’r llywodraeth mewn modd ymarferol.
Mae gwrychoedd wedi eu plygu gyda ffens ddwbl ar hyd rhyw 2km o’r fferm bellach.
“Mae nhw’n gwella ansawdd dŵr a rheoli llifogydd yn naturiol”.
“Yr hyn sy’n bwysig ydi bod y taliadau i ffermwyr yn ddigonol i wireddu’r cynllun”.
Ar waelod y fferm ger yr A494 mae pwll wedi ei greu gyda’r gobaith y bydd yn hafan i fywyd natur.
“Mae hwn yn rhywbeth sydd angen cymorth ar ffermwyr i neud, mae’n waith technegol ynddo’i hun ac mae angen taliad sy’n cyfro’r costau ond sydd hefyd yn adlewyrchu buddiannau lluosog amgylcheddol”.
Mae’r Rhwydwaith hefyd yn awgrymu gostwng y gofynion o blannu coed i ryw “6 neu 7%”.
“Mae’n debyg dyna ydi’r cyfartaledd gorchudd coed ar ffermydd yng Nghymru ac ella bob cynnydd mewn canran coed sydd gan ffarmwr y bydda nhw’n derbyn taliad fesul hectar bach yn uwch ac ella capio hwnna o gwmpas 20%/25% fel bo ni’n osgoi ffermydd cyfan yn cael eu plannu yn goed”.
Fe ddaw ei sylwadau wrth i ragor o ffermwyr brotestio yn y gogledd brynhawn Mawrth gydag oddeutu 30 o dractorau yn gyrru ar hyd yr A55 wrth wrthwynebu polisïau Llywodraeth Cymru.
Wrth ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod ffermio yn “bwysig iawn”.
“Rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda ffermwyr i ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy”.
“Mae hwn yn ymgynghoriad gwirioneddol ac ni fydd unrhyw benderfyniadau ar unrhyw elfen o’r cynnig nes ein bod wedi cynnal dadansoddiad llawn o’r ymatebion”.
Ychwanegodd y llywodraeth bod disgwyl newidiadau i’r cynigion.