Newyddion S4C

Problemau gyda Facebook ac Instagram ar draws y byd

05/03/2024
Social

Mae defnyddwyr Instagram a Facebook wedi bod yn cael problemau ar draws y byd brynhawn dydd Mawrth, wedi i gyfrifon gael eu cloi ar hap.

Fe wnaeth adroddiadau ar wefan y Down Detector saethu i fyny ychydig cyn 15:00, gyda mwy na 300,000 o broblemau wedi'u cofnodi o fewn ychydig funudau. 

Mae adroddiadau hefyd fod mwy na 25,000 o achosion o broblemau Instagram drwy'r wefan yn ystod yr un cyfnod.

Mae'n ymddangos bod problemau ar Facebook yn gadael defnyddwyr heb ffordd o fewngofnodi, gyda defnyddwyr wedi allgofnodi ac yn methu ailosod eu cyfrinair na chael mynediad i'w cyfrifon. 

Ar Instagram, mae problemau wrth lwytho llinellau amser, straeon a sylwadau defnyddwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.