Newyddion S4C

Tlodi 'y normal newydd' i deuluoedd yng Nghymru

06/03/2024
Tlodi ynni

Mae Sefydliad Bevan wedi rhybuddio mai tlodi a thrafferthion ariannol ydy'r 'normal newydd' i filoedd o deuluoedd yng Nghymru. 

Mae ymchwil newydd wedi dangos fod un o bob wyth (13%) naill ai "weithiau, yn aml neu bob amser" yn cael trafferth fforddio’r nwyddau hanfodol.

Dywed Sefydliad Bevan eu bod yn bryderus mai lefelau uwch o drafferthion ariannol ydy'r "normal newydd" yng Nghymru.

Dywedodd Dr Steffan Evans ar ran y Sefydliad: "Ers y pandemig, mae pobl yn mynd heb fwyd neu heb wres wedi cael ei normaleiddio mewn nifer o gymunedau yng Nghymru. Mae effaith hyn wedi bod yn dorcalonnus. 

"Er enghraifft, mae ein data yn dangos fod 44% o bobl wedi datgan fod eu sefyllfa ariannol wedi effeithio yn negyddol ar eu hiechyd meddwl, a 30% yn adrodd yr un peth am eu hiechyd corfforol."

Ar draws Cymru, mae mwy na thri ymhob 10 wedi adrodd eu bod yn penderfynu peidio gwresogi eu cartrefi tra bod bron i chwarter o bobl yn dweud eu bod yn bwyta prydau bwyd llai neu yn mynd heb brydau yn gyfan gwbl yn sgil trafferthion i reoli eu cyllid. 

Ychwanegodd yr elusen fod teuluoedd gyda phlant o dan 18 oed yn benodol yn wynebu heriau mawr a bod "nifer sylweddol o blant" yn colli allan ar wersi chwaraeon (21%) neu wersi cerddoriaeth (18%). 

'Allweddol'

Ychwanegodd Dr Evans: "Mae cael mynediad at gerddoriaeth neu chwaraeon yn allweddol i addysg a datblygiad cymdeithasol plant yn ogystal â chreu atgofion plentyndod hapus.

"Mae'r ffaith fod cymaint o blant ddim yn cael y cyfleoedd hyn yn debygol o gael effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl yng Nghymru am flynyddoedd i ddod."

Wrth ymateb i'r data diweddaraf, dywedodd Cyfarwyddwr y Sefydliad Bevan, Dr Victoria Winckler bod hi'n bwysig nad yw'r sefyllfa yn dod 'y normal newydd' yng Nghymru.

"Mae'n hollbwysig fod tlodi yn parhau yn eitem allweddol ar agenda pawb, ac mae'n rhaid i ni weithredu ar unwaith i wrthdroi effaith y pandemig a'r argyfwng costau byw ar gymunedau Cymreig."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio'n galed i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw - gan dargedu help i'r rhai sydd ei angen fwyaf a pharhau i ddarparu rhaglenni sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl. Yn ystod 2022-23 a 2023-24 roedd y gefnogaeth hon werth mwy na £3.3bn.

"Mae gwneud y mwyaf o incwm aelwydydd yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae ein hymgyrch Yma i Helpu yn annog pobl i gysylltu â Advicelink Cymru a 'Hawlio'r hyn sy’n ddyledus i chi'."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.