Newyddion S4C

S4C yn ystyried ad-daliad wedi trafferthion pleidleisio Cân i Gymru

04/03/2024

S4C yn ystyried ad-daliad wedi trafferthion pleidleisio Cân i Gymru

Mae S4C wedi cyhoeddi nos Lun eu bod yn ymchwilio i'r posiblrwydd o gynnig ad-daliad, wedi i nifer fawr o wylwyr gwyno am drefn bleidleisio Cân i Gymru.  

Wrth i’r gân 'Ti' gan Sara Davies gipio gwobr Cân i Gymru 2024  nos Wener, mynegodd nifer fawr o bobol eu rhwystredigaeth ar X (Twitter gynt) a Facebook am nad oedden nhw wedi llwyddo i bleidleisio.

Er mwyn pleidleisio, roedd angen ffonio rhif 0900 sy’n codi pris fesul munud.

Ymddiheurodd S4C yn fuan wedi diwedd y rhaglen i'r rhai a fethodd â bwrw eu pleidlais.

Mae ymddiheuriad arall wedi ei gyhoeddi gan y sianel nos Lun am y "camgymeriad technegol."

Dywedodd llefarydd: "Mae S4C mewn trafodaethau gyda’r darparwr telebleidleisio i ymchwilio i’r posiblrwydd o ad-dalu y rhai sydd wedi eu heffeithio

"Profwyd y broses bleidleisio yn llwyddiannus cyn mynd ar yr awyr.

"Roedd problem dechnegol gyda'r gwasanaeth gan ddarparwr telebleidleisio'r gystadleuaeth, unwaith i'r bleidlais fynd yn fyw. Roedd hyn yn golygu na chafodd pleidleiswyr unrhyw gadarnhad bod eu pleidleisiau wedi eu cyfri.

"Mae'r darparwr telebleidleisio wedi ymddiheuro i S4C am y camgymeriad, ond mae wedi cadarnhau bod yr holl bleidleisiau gafodd eu taro yn llwyddiannus wedi cael eu cyfri, ac mae'r canlyniadau wedi eu gwirio."

Ymhlith y gwylwyr siomedig, roedd Rachel Davies o Sir Gaerfyrddin. 

"O'n i'n teimlo tymed bach yn siomedig a rhwystredig," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"Achos o'n i ddim yn gwybod os odd y bleidlais weedi cael ei derbyn neu beidio."    

Ychwanegodd cyn enillydd Cân i Gymru, y canwr a'r cyfansoddwr Arfon Wyn fod y trafferthion pleidleisio wedi "tynnu gwynt o hwyliau chi ag yn gadael blas drwg."   

Yn ôl S4C, mae tîm technegol y cwmni allanol yn ymchwilio i achos y mater. Ychwanegodd y sianel y bydd S4C yn adolygu'r broses bleidleisio ar gyfer Cân i Gymru y flwyddyn nesaf.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.