Cymraeg ddim ar gael ar ap tystysgrif brechu y GIG
Cymraeg ddim ar gael ar ap tystysgrif brechu y GIG
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud na fydd tystysgrif brechu drwy ap y GIG yng Nghymru ar gael yn y Gymraeg.
Mae'r ap eisoes wedi ei lansio yn Lloegr, lle mae modd i bobl ddangos eu bod wedi eu brechu yn erbyn Covid-19 er mwyn teithio rhyngwladol a mynychu digwyddiadau byw, megis Euro 2020.
Mae disgwyl i ap tebyg cael ei gyflwyno yng Nghymru yn yr wythnos i ddod, ond yn ôl Mr Drakeford ni fydd fersiwn Cymraeg ar gael am rai misoedd.
Yn dilyn cwestiwn gan Aelod o Senedd Cymru, Hefin David o'r blaid Lafur, am ddatblygiad yr ap, dywedodd Mr Drakeford fod Llywodraeth Cymru wedi ymgeisio am fersiwn Cymraeg o'r ap "dro ar ôl tro".
"Mae gen i ofn, Llywydd, na fydd y Gymraeg ar gael," dywedodd.
"Er gwaethaf ein ceisiadau dro ar ôl tro i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i barchu’r gyfraith yma yng Nghymru, maen nhw'n dweud na fydden nhw'n gallu gwneud hynny'n bosib am sawl mis arall.
"Ond, o fewn y dyddiau nesaf, rydym yn rhagweld y bydd hi'n bosib i bobl yng Nghymru ddefnyddio'r un opsiwn - pe bai hynny drwy'r ap neu drwy wefan.
“Bydd modd defnyddio union yr un math o ap, a bydd hi'n bosib i'r Cymry ddefnyddio system fwy cyfredol yn union fel y system yn Lloegr sydd wedi bod ar gael yno ers 17 Mai."
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ymateb.
Fideo: Senedd TV