Newyddion S4C

Marwolaeth Pentwyn: 'Dim tystiolaeth' fod Taser wedi ei ddefnyddio

22/06/2021
Heddlu.
Heddlu.

Nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd fod Taser wedi ei ddefnyddio gan swyddogion yr heddlu a ddaeth i gyswllt gyda dyn o Gaerdydd a fu farw yn oriau man bore Sadwrn, 19 Mehefin.

Mae'r Swyddfa Annibynnol am Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i farwolaeth dyn 30 oed ym Mhentwyn yn y brifddinas.

Mae ymchwiliadau'r swyddfa yn parhau i fod yn rhai cychwynnol ar hyn o bryd.

Daeth swyddogion ar draws dyn a oedd yn ymddangos yn bryderus ac wedi ei anafu ychydig wedi 1 o'r gloch fore Sadwrn.

Yn ystod y digwyddiad, fe gafodd y dyn ei atal gan yr heddlu ac wedi ei roi mewn gefynnau. 

Mae swyddogion yn dweud fod hyn er mwyn ei ddiogelwch ei hun ac ni chafodd ei arestio yn ystod y digwyddiad.

Cafodd parafeddygon eu galw oherwydd cyflwr gwael y dyn, a waethygodd yn ddiweddarach.  Cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Prifysgol Cymru, lle fu farw ychydig wedi 2:30 y bore.

Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans: "Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dyn ar yr adeg drist iawn hon.

"Rydym yn deall y pryder yn y gymuned leol o ganlyniad i'r digwyddiad, yn rhannol oherwydd deunydd fideo sydd wedi ei rannu ar-lein.  Dyna pam mae hi'n bwysig fod ymchwiliad annibynnol trylwyr yn cael ei gynnal i sicrhau ein bod yn deall yr amgylchiadau'n llawn.

"Mae'r gwaith yma yn ei fabandod a byddwn yn siarad gyda thystion yn ogystal ag adolygu deunydd fideo o'r digwyddiad o gamera ar y corff fel rhan o'm hymchwiliad.

"Rydym yn ymwybodol o adroddiadau ar gyfryngau cymdeithasol fod Taser wedi ei ddefnyddio yn ystod y digwyddiad.  Tra bod archwiliad Taser heb ei gynnal hyd yma, o ddadansoddiad yn y fan a'r lle a thystiolaeth fideo sydd wedi ei weld hyd yma, nid oes tystiolaeth ar yr adeg hon fod Taser wedi ei ddefnyddio".

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.