Tair o siopau The Body Shop yng Nghymru i gau
Bydd tair o siopau The Body Shop yng Nghymru yn cau oherwydd fod y cwmni wedi mynd i'r wal.
Mae'r gweinyddwyr wedi cyhoeddi rhestr o 75 cangen a fydd yn cau yn Y Deyrnas Unedig, yn ychwanegol i'r saith a gafodd eu cyhoeddi dros wythnos yn ôl.
Yn eu plith, mae siopau The Body Shop yng Nghaerfyrddin, Abertawe a Brychdyn, Sir y Fflint.
Bydd cyfanswm o 489 o bobl yn colli eu gwaith ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.
Mae gan The Body Shop siopau ym Mhen-y- bont ar Ogwr, Caerdydd a Llandudno hefyd. Dyw'r canghennau hynny ddim wedi eu cynnwys ar y rhestr ddydd Iau.
'Cam pwysig'
Pan ddatgelodd y gweinyddwyr eu bod wedi eu galw yn sgil trafferthion y cwmni, nodwyd y byddai'r busnes yn parhau i fasnachu trwy siopau ac ar-lein yn ystod y broses weinyddu.
Mewn datganiad, dywedodd y gweinyddwyr: “Mae The Body Shop yn parhau i gael ei arwain gan ei uchelgais i fod yn frand harddwch modern, deinamig, sy’n berthnasol i gwsmeriaid ac yn gallu cystadlu am y tymor hir.
“Mae creu busnes mwy ystwyth a sefydlog yn ariannol yn y DU yn gam pwysig tuag at gyflawni hyn.”
Y cefndir
Dyma yw’r trydydd tro i The Body Shop newid dwylo wedi i’w sylfaenydd, Y Fonesig Anita Roddick, werthu’r cwmni am y tro cyntaf yn 2006, a hynny flwyddyn cyn ei marwolaeth.
Fe brynodd cwmni rhyngwladol L’Oreal y busnes am £652m. Roedd nifer o bobl wedi gwrthod prynu eu cynnyrch ar y pryd, gan ddadlau fod moesau L’Oreal yn “groes” i hanfodion The Body Shop o beidio profi ar anifeiliaid.
Cafodd The Body Shop ei werthu eto i un o gewri’r byd colur, Natura o Brazil, yn 2017 am £880m. Fe brynodd Aurelius y cwmni am £207m ddiwedd y llynedd.