Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Cymru'n brwydro ond colli yn erbyn Iwerddon yn Nulyn

24/02/2024
Cymru v Iwerddon 2024

Mae Cymru wedi colli eu trydedd gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon yn Nulyn.

31-7 oedd y sgor terfynol yn Stadiwm Aviva ddydd Sadwrn.

Mae Iwerddon ar frig y bencampwriaeth wedi iddynt ennill pob un o’u gemau, tra bod Cymru yn y safle pumed.

Wedi chwe munud, fe sgoriodd Iwerddon pwyntiau cynta’r gem ar ôl i Jack Crowley trosi cig gosb yn dilyn tacl uchel gan Nick Tompkins.

Parhau gwnaeth y pwysau gan Iwerddon wrth i Gymru ildio pum cic gosb o fewn y 12 munud agoriadol.

Trodd y pwysau yn bwyntiau a chais cyntaf y gêm wrth i Dan Sheehan sgorio yn dilyn sgarmes symudol.

Roedd Cymru ar eu hôl hi o 10-0 yn dilyn trosiad Jack Crowley.

Yn dilyn mwy o bwysau di-baid gan y Gwyddelod fe ddaeth cais arall yn y gornel. James Lowe oedd y sgoriwr y tro yma a Crowley eto yn sicrhau’r trosiad

Y Gwyddelod yn rheoli’r hanner cyntaf ac 17-0 ar y blaen ar yr egwyl.

Cymru'n brwydro

Dwy funud wedi dechrau’r ail hanner tro Cymru oedd hi i ymosod.

Cafodd Cymru eu gwobrwyo yn dilyn sgarmes symudol gyda chais cosb wedi i Tadgh Beirne newid ei safle yn y sgarmes ac atal Alex Mann rhag sgorio.

Derbyniodd Beirne carden felen am hynny a Chymru wedi ennill eu pwyntiau cyntaf yn y gêm.

Image
Mackenzie Martin
Mackenzie Martin

Gyda 54 munud ar y cloc fe ddaeth y chwaraewr 20 oed Mackenzie Martin ymlaen am ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad, a chwaraewr rhif 1,200 i chwarae i Gymru.

Parhau gwnaeth y pwysau gan Gymru yn hanner Iwerddon, tan iddynt ennill cic cosb ac ennill haeddiant ar ôl cyfnod hir o amddiffyn.

O fewn tair munud fe aeth Iwerddon i ben arall y cae ac yn dilyn cyfnod o chwarae taclus roedd y mcanolwr Bundee Aki wedi sgorio dan y pyst.

Ond cyn i Jack Crowley cael cyfle i gicio’r trosiad roedd y swyddog teledu wedi nodi bod Robbie Henshaw wedi pasio’r bêl ymlaen, ac felly dihangfa i Gymru.

Fe ddaeth y drydedd cais i Iwerddon dan y pyst wedi 67 munud.

Yn dilyn cic cosb roedd y Gwyddelod wedi pasio ar hyd y llinell tan i’r bêl gyrraedd Ciaran Frawley oedd yn gallu rhedeg mewn a sgorio yn hawdd.

Bygwth

Bygwth i sgorio gwnaeth Gymru ym munudau ola’r gêm, ac Iwerddon yn gwneud unrhyw beth i’w atal a hynny’n amlwg wrth i James Ryan derbyn ail garden felen y gêm i’r Gwyddelod.

Daeth y cyfle olaf i Gymru wedi 77 munud wrth i Aaron Wainwright wthio ei ffordd dros y llinell cais, ond nid oedd yn llwyddiannus wrth i amddiffyn Iwerddon ei rwystro rhag sgorio cais cysur.

Ac fe lwyddodd y tîm cartref i sicrhau'r pwynt bonws wedi'r 80 munud, gyda Tadgh Beirne yn croesi'r llinell ar ôl sawl cymal o amddiffyn caled gan y Cymry.

Er bod gwelliant yn chwarae Cymru yn wedi'r egwyl, roedd eu perfformiad yn yr hanner cyntaf yn golygu yr oedd y dasg o wir herio’r Gwyddelod yn yr ail hanner yn ormod.

Ffrainc yn Stadiwm y Principality ar 10 Mawrth yw’r her nesaf i Gymru.

Lluniau: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.