Newyddion S4C

'Cynnydd' mewn trafodaethau dros ryddhau gwystlon yn Gaza

24/02/2024
Israel / Gaza

Mae “cynnydd” wedi bod mewn trafodaethau rhwng Israel a Hamas dros ryddhau gwystlon, yn ôl adroddiadau.

Dywedodd swyddog Israelaidd wrth rwydwaith Americanaidd NBC fod trafodwyr Israel wedi dychwelyd ar ôl trafodaethau dros gadoediad gyda chynrychiolwyr o’r Unol Daleithiau, Yr Aifft a Qatar.

“Roedd rhywfaint o gynnydd y Paris ond mae’n rhy gynnar i ddweud a fydd yn arwain at ddatblygiad arloesol,” meddai’r swyddog.

Fe fydd cabinet rhyfel Israel yn cyfarfod nos Sadwrn i adolygu’r trafodaethau a’r sefyllfa bresennol yn y rhyfel, medden nhw.

Mae’r ffaith bod trafodwyr Israel yn credu bod eu cyfarfod ddydd Gwener gyda chyfryngwyr wedi arwain at gynnal sesiwn cabinet rhyfel fin nos “yn dangos na ddaethon nhw yn ôl yn waglaw”, meddai cynghorydd diogelwch cenedlaethol Benjamin Netanyahu wrth Channel 12 TV yn Israel.

Dywedodd ffigwr gwleidyddol o Israel wrth NBC: “Mae dal ymhell o fod yn fargen, ond fe ollyngodd Hamas rai o’i ofynion ar ôl i Brif Weinidog Netanyahu atgyfnerthu ei safiad.”

Mae trafodwyr wedi bod yn cynyddu ymdrechion i sicrhau cadoediad yn Gaza, yn y gobaith o atal ymosodiad gan Israel ar ddinas Rafah, lle mae mwy na miliwn o bobl yn ceisio canfod lloches.

Fe wnaeth arweinydd Hamas, Ismail Haniyeh, â chyfryngwyr o’r Aifft yn Cairo gwrdd yr wythnos hon i drafod yr amodau byddai angen i sicrhau cadoediad.

Dywedodd swyddog o Hamas ddydd Gwener fod y grŵp milwriaethus wedi gorffen trafodaethau cadoediad yn Cairo a’u bod yn aros i weld beth mae cyfryngwyr yn dod yn ôl o’r trafodaethau ag Israel dros y penwythnos.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.