Crwner yn poeni am 'ragor o farwolaethau' ymhlith cleifion yn y gogledd
Mae crwner yn poeni y bydd "rhagor o farwolaethau" yng Ngogledd Cymru os na fydd cleifion yn cael adolygiadau rheolaidd o'r meddyginiaeth mae nhw'n gymryd.
Gwnaeth Sarah Riley ei sylwadau mewn cwest i farwolaeth Teresa Bennett, 57 oed, o Gaergybi oedd yn cymryd 13 math o feddyginiaeth adeg ei marwolaeth.
Roedd Ms Bennett wedi cymryd gorddos ddamweiniol o'r cyffur Fentanyl. Roedd ei dos o'r cyffur wedi aros yr un fath ers 2008.
Clywodd y cwest mai targed Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd i bob claf gael adolygiad o'u meddyginiaeth bob 12 i 15 mis. Ond mae'r Bwrdd yn dweud na fyddan nhw'n gallu cyrraedd y targed tan mis Mai 2025.
"Doedd yna ddim tystiolaeth i awgrymu nad oedd Ms Bennett yn glynu at ei meddyginiaeth," meddai'r crwner.
"Roedd practis meddyg teulu Ms Bennett yn cael ei reoli'n uniongyrchol gan y bwrdd iechyd. Mae'n arferol i fwrdd iechyd gwblhau adolygiad meddyginiaeth bob 12-15 mis, ond yn achos Ms Bennett, doedd y targed yna ddim wedi ei gyrraedd un waith ers 2015.
"Mae yna ddiffyg monitro a does dim proses safonol o adolygu meddyginiaethau yn unrhyw bractis meddygol sy'n cael ei reoli gan y bwrdd iechyd."
Ychwanegodd Ms Riley: "Mae 'na berygl o niwed os nad ydi adolygiadau meddyginiaeth yn cael eu cynnal yn rheolaidd, a mae 'na berygl o farwolaeth mewn achosion cymhleth fel achos Ms Bennett."
Dywedodd bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi cynllun gwella, gyda'r bwriad o gyrraedd y targed erbyn diwedd Mai 2025.
"Yn fy marn i, dydi hyn ddim yn ddigon cyflym, a rwy'n bryderus y bydd rhagor o farwolaethau," meddai'r crwner.