Newyddion S4C

Michael Sheen yn wynebu cael ei 'herio' fel rhan o sioe newydd BBC

22/02/2024
Michael Sheen - Wikimedia Commons

Fe fydd Michael Sheen yn cael ei gyfweld gan bobl sy'n awtistig, niwrowahanol ac sydd ag anableddau dysgu ar gyfer rhaglen newydd ar y BBC. 

Fe fydd rhaglen 'The Assembly' yn cael ei darlledu yn ystod Wythnos Derbyn Awtistiaeth, ac yn cynnwys tua 35 o bobl yn cyfweld yr actor a'r cyfarwyddwr o Gymru.

Mae'r BBC wedi rhybuddio y bydd disgwyl i'r actor wynebu "cyfweliad mwyaf heriol ei fywyd".

Dywedodd Michael Sheen ei fod "wrth ei fodd" i fod yn rhan o'r rhaglen. 

"Mae'n syniad mor ffres a chyffrous a dwi methu disgwyl am rywbeth dwi'n siwr sy'n mynd i fod yn brofiad rhyfeddol a heriol," meddai.

"Dwi ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl mewn gwirionedd, sydd yn beth cyffrous ond hefyd ychydig yn ofnus."

'Diolch'

Mae'r rhaglen yn seiliedig ar raglen boblogaidd Les Rencontres Du Papotin ar sianel deledu France 2 yn Ffrainc, sydd wedi gweld yr Arlywydd Emmanuel Macron ac actorion enwog y wlad yn cael eu holi.

Yn ystod y gyfres, gofynwyd i Mr Macron "os oedd yn ymddygiad priodol i briodi athro neu athrawes rywun" gan gyfeirio at ei berthynas gyda Brigitte Macron ar ôl iddo ei chyfarfod yn yr ysgol.

Ymatebodd drwy ddweud nad ydych chi'n dewis pwy yr ydych chi'n ei "garu".

Mae'r rhaglen hefyd wedi cael ei gwneud yn Sbaen, Denmarc a Gwlad Pwyl.

Dywedodd pennaeth adloniant y BBC, Kalpna Patel-Knight: "Diolch yn fawr i Michael Sheen am fod yn barod i gael ei holi heb derfyn gan y bobl arbennig yma sy'n dod â'r sioe yn fyw."

Fe fydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar BBC One ac iPlayer ym mis Ebrill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.