Image

O'r penwythnos yma ymlaen bydd pobl yn cael canu mewn addoldai yng Nghymru unwaith eto.
Ond bydd rhaid i bawb gadw pellter cymdeithasol a gwisgo mwgwd.
"Mae'r grŵp sy'n ymgynghori i ni wedi tynnu tystiolaeth ledled y byd gyda'i gilydd," eglurodd Prif Weinidog Mark Drakeford wrth raglen Newyddion S4C.
"Pan mae cyfraddau'r coronafeirws lawr fel mae e ar hyn o bryd yng Nghymru, mae'n golygu drwy wisgo mygydau a chadw pellter cymdeithasol yn y capeli ac yn y blaen mae'n bosib i bobl ganu.
"Ac wrth gwrs yng Nghymru mae hynny'n bwysig i ni."
Ychwanegodd mai 'I bob un sydd ffyddlon' yw'r emyn mae'n edrych ymlaen i'w glywed yn cael ei chanu unwaith eto.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.